Gŵyl flynyddol yng Ngorllewin Cymru i ddathlu llenyddiaeth a’r celfyddydau yw Penwythnos Talacharn. Cynhelir yr ŵyl yn y Gwanwyn yn nhref Talacharn

Yng ngeiriau Dylan Thomas, preswylydd enwoca’r dref, mae Talacharn yn

“timeless, mild, beguiling island of a town.”

O fwriad, gŵyl fach yw Penwythnos Talacharn. Gan mai tref fechan yw Talacharn mae’r ŵyl yn gweddu’n llwyr iddi ac yn ffitio’n

berffaith o fewn ei ffiniau.

Yn sgil hynny, mae pawb – ymwelwyr yr ŵyl, trigolion y dre, yr artistiaid a’r perfformwyr – yn troi ymysg ei gilydd, ochr yn ochr, drwy’r penwythnos.

Yn ôl y ddau a sefydlodd yr ŵyl, Richard Thomas

‘Mae’n ŵyl sy’n dod yn rhan o’r gymuned leol – dyna’r pwynt’

a’r awdur o Gaerdydd, John Williams:

‘Bydde’n well gen i ddechrau gŵyl arall na gadael iddi dyfu’n rhy fawr’

Llenyddiaeth, cerddoriaeth a chomedi yw canolbwynt Penwythnos Talacharn. Er ein bod ni’n denu cyfranwyr ac artistiaid o bedwar ban byd, mae gan yr ŵyl berthynas arbennig gyda sgwenwyr a cherddorion o Gymru ac artistiaid sydd â chysylltiad â Chymru Ymysg prif berfformwyr gwyliau blaenorol bu Patti Smith, Ray Davies o’r Kinks, Mick Jones o’r Clash, yr actor Michael Sheen, yr awdur Caitlin Moran, y bardd John Cooper Clarke, y comediwyr Harry Hill ac Alexi Sayle a’r artist Peter Blake.

Mae holl ddigwyddiadau’r penwythnos yn digwydd yng nghlybiau, eglwysi a neuaddau Talacharn – canolfannau bychain ac agos-atoch sy’n creu naws arbennig rhwng y gynulleidfa a’r perfformwyr. Prif ganolfannau’r Penwythnos yw Neuadd y Mileniwm, yr Eglwys Gynulleidfaol a’r Clwb Rygbi.

Cyfarwyddwr cerddoriaeth Penwythnos Talacharn yw Richard James (gynt o’r band, Gorky’s Zygotic Mynci).