Tiwtoriaid / Menna Elfyn & Paul Henry

Bydd y cwrs hwn yn croesawu beirdd newydd a phrofiadol i archwilio sut all ein synnwyr o le, efallai yn fwy perthnasol nag erioed yn y cyfnod hwn o argyfwng hinsawdd, gael dylanwad ar ein ysgrifennu – ein ieithwedd, delweddau, rhythmau a’i siâp ar y dudalen. Drwy ennyn ysbrydoliaeth o’r awyrgylch naturiol sy’n amgylchynu Tŷ Newydd – yr ardd, y coed, yr afon a’r arfordir – byddwn yn edrych ar sut all barddoniaeth ymateb i bryderon byd eang drwy brofiadau personol a drwy arsylwi byd natur yn fanwl – patrymau deilen grin, cân serch brigyn mewn coeden i’r blaned…

Byddwn hefyd yn edrych ar sut all y cof ail-ddyfeisio lleoliad wrth i ni ysgrifennu amdano, sut y mae’r gorffennol yn dod yn ran o’r lle. Drwy gyd-ddarllen gwaith beirdd eraill, gweithdai dyddiol i ysgrifennu, a chyfarfodydd un-i-un, byddwn yn ystyried crefft a dirgelwch barddoniaeth ochr yn ochr â’r dewisiadau creadigol yr ydym ni yn eu cymryd, yn cynnwys mesurau caeth a mesurau rhydd i adrodd ein straeon.

Mae croeso cynnes i feirdd sy’n cyfansoddi drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, a bydd y cwrs hwn yn eich cynorthwyo i symud i’r cam nesaf gyda’ch barddoniaeth a hynny mewn awyrgylch gyfeillgar a chefnogol.

tmosphere.