DEWIS CLWB LLYFRAU BBC RADIO 2
‘Engrossing and original, political and unpredictable, bydd The Silence Project yn gwneud i bobl siarad’ – Bernardine Evaristo

Anghenfil. Merthyr. Mam.

Ar ben-blwydd Emilia Morris yn dair ar ddeg oed, mae ei mam yn symud i babell ar waelod yr ardd. O’r diwrnod hwnnw, nid yw hi byth yn dweud gair arall. Wedi’i hysbrydoli gan ei llw o dawelwch, mae menywod eraill yn ymuno â hi a chyda’i gilydd maen nhw’n adeiladu cymuned. Wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae Rachel a miloedd o’i dilynwyr ledled y byd yn llosgi eu hunain i farwolaeth.

Yn sgìl yr hyn a elwir yn ‘y Digwyddiad/The Event’, mae dylanwad byd-eang y Gymuned yn tyfu’n gyflym. O ganlyniad, mae gan y byd cyfan farn am Rachel – p’un ai eu bod yn ei gweld hi fel anghenfil croengaled neu ferthyr arwrol – ond nid yw Emilia erioed wedi lleisio ei barn hi’n gyhoeddus. Tan yn awr.

Pan fydd hi’n cyhoeddi ei chyfrif hi o fywyd ei mam mewn cofiant o’r enw The Silence Project, mae Emilia hefyd yn penderfynu datgelu pa mor sinistr y mae’r Gymuned wedi datblygu. Yn y broses, mae hi’n camu o gysgod Rachel unwaith ac am byth, fel y gellir clywed ei llais ei hun o’r diwedd.

Cwblhaodd Carole Hailey MA mewn Ysgrifennu Creadigol ac Ysgrifennu Bywyd yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain, a PhD mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe cyn cael ei dethol gan Lyfrgell Llundain yn Awdur Datblygol 2020/21. Dewiswyd ‘The Silent Project’ ar gyfer Clwb Llyfrau Radio 2 a gyflwynir gan Zoe Ball ar ei sioe amser brecwast ac ar BBC Sounds. Fe’i cyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023 gan Corvus, sy’n enw masnachol gan Atlantic Books, ac mae’n Brif Nofel Gyntaf 2023 iddynt.Mae ‘The Silence Project’ wedi ennill lle ar restr fer Gwobr Bridport am Nofel Gyntaf.