Y Llais Cryfaf: Ysgrifennu Cymeriadau Bywiog, Cofiadwy. Dosbarth Meistr gyda Glen James Brown

Efallai eich bod chi newydd ddechrau gyda syniad addawol am stori, ond nid ydych chi’n gwybod ble i ddechrau. Neu efallai y gallwch ddarlunio eich prif gymeriad yn eich pen, ond methu rhoi llais iddynt? Ymunwch â Glen James Brown yn y dosbarth meistr hwn ar ddatblygu pob agwedd ar gymeriad, o gorfforoldeb i hanes personol. Gydag ymarferion ysgrifennu drwyddi draw, bydd y cyfranogwyr yn dysgu disgrifio eu cymeriadau ac yn archwilio sut maen nhw’n meddwl ac yn teimlo, cyn eu cael i ryngweithio ag eraill. Bydd deialog a gweithredu gyda’i gilydd yn arwain at gymeriadau addawol y gallwch barhau gartref.

Ganed Glen James Brown yn Sir Durham ym 1982 ac astudiodd Saesneg ym Mhrifysgol Leeds Beckett cyn graddio gyda rhagoriaeth o MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Chichester. Ironopolis yw ei nofel gyntaf; roedd ar restr fer Gwobr Portico 2020 yn ogystal â Gwobr Orwell 2019 am Ffuglen Wleidyddol. Mae’n byw ym Manceinion ac ar hyn o bryd yn gweithio ar ei ail nofel.

Mae tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn yn rhoi mynediad i chi i’r dosbarth meistr ynghyd â chinio dau gwrs gyda diod boeth.