Yr haf yma, archwiliwch y creaduriaid rhyfeddol o’n byd naturiol o Gaban y Sgowtiaid yn Arberth gyda The Zoo that Comes to You.

Bydd Theatr Scarlett Oak yn dod â straeon am anifeiliaid rhyfeddol o bob cwr o’r byd yn fyw drwy sioe theatr bypedau unigryw. Gydag anifeiliaid haerllug a swynol, bydd y sioe hon yn cyfareddu, goleuo’ch meddwl, ac ysbrydoli hyd yn oed y darpar Attenboroughs lleiaf.
Mae The Zoo That Comes to You yn dilyn ymdrechion angerddol dau sy’n selog dros anifeiliaid i rannu eu cariad at anifeiliaid a’u pryder drostynt gyda’r byd. Maen nhw’n derbyn anifeiliaid sydd angen seibiant, gofal neu gartref dros dro ac wedi dod, trwy ddamwain, yn berchen ar warchodfa gyfan, ond heb unrhyw ymwelwyr! Felly mae pawb – anifeiliaid a phobl fel ei gilydd – wedi penderfynu ei bod hi’n amser mynd allan, gweld y byd, a dod â’r sŵ atoch chi. Dewch i gyfarfod â’r grŵp amrywiol hwn o anifeiliaid dymunol ond eofn, wrth iddyn nhw drafod eu profiadau bywyd a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu mewn byd sy’n newid yn gyflym. Mae ganddynt lawer i’w ddweud ac maen nhw eisiau ysbrydoli pobl o bob oed i weithredu, oherwydd maen nhw’n gwybod y gall gweithredoedd bach wneud gwahaniaeth mawr yn y byd. Gyda phypedwaith, cerddoriaeth fyw a chymeriadau chwareus, mae Theatr Scarlet Oak yn gwahodd pawb i ymuno â’r sgwrs am gadwraeth anifeiliaid.
Hyd y perfformiad: 60 munud. Addas i oed 5+ ond rydym yn croesawu cynulleidfaoedd ac oedolion digwmni! There is on-site pay-and-display car parking. Os oes gennych anghenion mynediad penodol byddwch cystal â chysylltu â’n Cynhyrchydd Cymunedol ar info@span-arts.org.uk
Dewch i ddysgu hanesion a heriau’r grŵp eclectig hwn o anifeiliaid gwyllt swynol, wrth i The Zoo That Comes You ddod atoch chi yn Arberth! Mae’r warchodfa fywyd gwyllt unigryw hon yn dod â’r creaduriaid anhygoel hyn i’r llwyfan, gyda phypedwaith arbenigol nid yn unig i gyfareddu ond hefyd i ysbrydoli pobl o bob oed i gymryd camau bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr!