Mae Gŵyl y Celfyddydau These3Streams 2022 yn cael ei chynnal yn nhref hanesyddol Llanilltud Fawr dros benwythnos 10fed, 11eg a 12fed Mehefin 2022.

Mae’r ŵyl Gelfyddydol hon yn dod ag amrywiaeth gyffrous o awduron, artistiaid a cherddorion ynghyd mewn dathliad o gymuned a chynefin.

Cynhelir digwyddiadau mewn nifer o leoliadau hardd ac unigryw yn y dref, gan gynnwys Eglwys Llanilltud Fawr, sy’n dyddio o 600 OC, neuadd y dref, Yr Hen Ysgol, siop lyfrau Nickleby, The Old Swan Inn a chanolfan gymunedol CF61.