I’w gyhoeddi gan wasg Honno Welsh Women ym mis Mai 2023, mae Vulcana yn adrodd stori go iawn Kate Williams o Oes Victoria.

Ar noson stormus o aeaf 1892, mae Kate Williams, merch Gweinidog y Bedyddwyr, yn gadael ei thref fach enedigol yn Y Fenni, Cymru ac yn teithio i Lundain gyda dim byd ond cês teithio a chynllun gwyllt: mae hi am berfformio fel dynes gref.

Ond nid ei huchelgais yn unig y mae ganddi lygaid arno. Mae William Roberts, sy’n ddeuddeng mlynedd yn hŷn na Kate, ac yn arwain grŵp o ddynion a menywod cryf, wedi dal ei dychymyg a’i chalon. Yn Llundain, mae William yn creu hunaniaeth newydd i Kate, sef ‘Vulcana – Most Beautiful Woman on Earth’, ac yn galw ei hun yn ‘Atlas’. Yn fuan maen nhw’n teithio o gwmpas Prydain a’r tu hwnt, yn perfformio mewn theatrau yn Ffrainc, yn Awstralia ac yn Algiers.

Wrth i seren Vulcana godi, fodd bynnag, mae seren Atlas yn pylu, ac mae Kate yn gorfod cynnal nid yn unig grŵp o berfformwyr, ond hefyd y teulu. Ond ydy hi wir yn awchu am enwogrwydd a ffortiwn? Sut mae hi’n gallu cysoni bod yn fam gyda theithio’r byd? Ydy hi wir yn gallu bod yn llais i fenywod ac, er gwaethaf y disgwyliadau a’r confensiynau, parhau’n driw iddi hi ei hun?

Mae Rebecca F. John yn awdur pedwar llyfr i oedolion – Clown’s Shoes, The Haunting of Henry Twist, The Empty Greatcoat, a Fannie. Yn flaenorol, cafodd ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Stori Fer The Sunday Times a Gwobr Nofel Gyntaf Costa. Yn 2022, cyhoeddodd ei llyfr cyntaf i blant, nofel oedran cynradd o’r enw, The Shadow Order, trwy Wasg Firefly.

Mae Rebecca yn byw yn Abertawe gyda’i phartner, eu mab a’u cŵn. Mae hi’n dwlu ar gerdded, y môr a darllen am gynifer o fydau gwahanol â phosibl.