“The best work that anybody ever writes is the work that is on the verge of embarrassing him, always”,  Arthur Miller.

Mae cymaint o’n gwaith ysgrifennu gorau yn deillio o arbrofi anymwybodol. Ac eto, yn rhy aml, mae ofn a hunanfeirniadaeth yn amharu ar ein hymdrech i gyflawni ein gwaith gorau. Gall ofn hyd yn oed ein hatal ni rhag ysgrifennu’n llwyr. Yn y cwrs hwn, byddwn yn archwilio ffyrdd o oresgyn ofn a rhwystrau eraill wrth ysgrifennu. Mewn amgylchedd diogel a chefnogol, byddwn yn defnyddio cyfres o ymarferion, darlleniadau a thrafodaethau i archwilio sut y gall yr awdur fod yn fwy mentrus, cymryd mwy o risgiau a thapio mewn i ‘hud’ ein creadigrwydd brodorol ein hunain. Bydd y gweithdai (cyfanswm o 10 awr) yn cael eu cefnogi gan ddeg awr o ddysgu o bell, lle bydd myfyrwyr yn cynhyrchu eu gwaith ysgrifenedig ac yn derbyn adborth ffurfiannol manwl o’r gwaith sy’n mynd rhagddo a’r aseiniad a gwblhawyd.

Bwcio/Rhagor o wybodaeth:

www.orieldavies.org | desk@orieldavies.org | 01686 625041

Sesiynau sydd i ddod

  1. Dydd Mercher, 30 Ionawr 2019
  2. Dydd Mercher, 6 Chwefror 2019
  3. Dydd Mercher, 13 Chwefror 2019
  4. Dydd Mercher, 20 Chwefror 2019
  5. Dydd Mercher, 6 Mawrth 2019
  6. Dydd Mercher, 13 Mawrth 2019
  7. Dydd Mercher, 20 Mawrth 2019
  8. Dydd Mercher, 27 Mawrth 2019
  9. Dydd Mercher, 3 Ebrill 2019