Dydd Mawrth 24 Chwefror 2026, 5:45 – 7:30pm
PwC More London: 7 More London Riverside, SE1 2RT
 
Wrth i ddeallusrwydd artiffisial ddechrau ysgrifennu ei farddoniaeth ei hun, beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer dyfodol ysgrifennu creadigol?

Dyma ddigwyddiad sy’n rhan o Wythnos Cymru Llundain a fydd yn peri inni feddwl. Bydd Menna Elfyn (bardd a thrysor cenedlaethol) yn cyflwyno comisiwn newydd, wedi’i ysgrifennu ar y cyd â ChatGPT, sy’n archwilio’r ffiniau rhwng deallusrwydd dynol ac artiffisial.
Yna, bydd panel o arbenigwyr yn trafod goblygiadau creadigol, diwylliannol a moesegol llenyddiaeth a gynhyrchir gan AI. A all peiriannau fod yn wirioneddol farddonol? Beth yw ystyr awduriaeth yn oes algorithmau? A sut y gallai’r newid hwn effeithio ar yrfaoedd awduron ac ar enaid barddoniaeth ei hun?

Ymunwch â ni am ddarlleniad byw, trafodaeth fywiog, a golwg ar y berthynas sy’n esblygu rhwng technoleg a’r celfyddydau.

Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma!

 
Cynhyrchir y digwyddiad hwn gan Llenyddiaeth Cymru | Literature Wales mewn partneriaeth â PwC, gyda chefnogaeth Wythnos Cymru Llundain.