Bydd PEN Cymru yn dathlu ei degfed pen-blwydd gyda digwyddiad hybrid yn rhoi llwyfan i natur amlieithog y Gymru fodern.

Byddwn yn clywed am y gwaith ymgyrchu y bu Wales PEN Cymru yn ei gyflawni i gefnogi awduron ar draws y byd, a mwynhau darlleniadau gan rhai o sgwennwyr mwyaf blaenllaw’r wlad – yn fyw yn Llundain a dros gyswllt fideo o wahanol rannau o Gymru.

Dewch draw i’r Poetry Cafe am 2 o’r gloch ar Chwefor 29ain, archebwch yma

neu ymunwch â ni dros Zoom:

https://write4word.uk/yckks246

Meeting ID: 899 3554 9662

Passcode: 956957

Mae Wales PEN Cymru yn un o’r 145 o ganolfannau PEN mewn dros 100 o wledydd ar draws y byd, ac mae’n gysylltiedig â PEN Rhyngwladol, prif lais llenyddiaeth ledled y byd.

Mae PEN yn hybu llenyddiaeth ac yn amddiffyn rhyddid mynegiant.

Mae’n ymgyrchu ar ran ysgrifenwyr o bob cwr y byd sy’n cael eu herlid, eu carcharu, eu poenydio neu’n dioddef o ymosodiadau oherwydd eu gwaith ysgrifennu.

Mae iddo bwyllgorau yn cynrychioli ysgrifenwyr yn y carchar, hawliau ieithyddol a chyfieithu, merched sy’n ysgrifennu ynghyd â phwyllgor heddwch.