Tiwtoriaid / Helen Docherty & Thomas Docherty

Mae’r rhan fwyaf o blant yn cael eu cyflwyno i rym straeon drwy lyfrau lluniau. Bydd y llyfrau lluniau gorau’n dweud stori drwy gyfuniad o eiriau a delweddau, a’r rheini ynghyd yn gryfach na’r elfennau unigol. Boed yn awdur, darluniwr, neu’n medru’r ddau, bydd y cwrs hwn yn gyfle i arbrofi â’r naill ddisgyblaeth a’r llall – ac i gnoi cil ynghylch sut y mae artistiaid ac awduron yn cydweithio.

Mae creu stori mewn llai na 500 gair yn gofyn am gryn feddwl a disgyblaeth. Bydd y cwrs hwn yn edrych ar sut i greu a dewis y syniadau gorau, a sut i strwythuro’ch naratif gan ystyried sut y bydd y darluniau’n cyfrannu at adrodd y stori. Byddwch chi’n datblygu eich cymeriadau cofiadwy eich hun ac yn eu gosod mewn byd dychmygus, gan ychwanegu haenau o ystyr trwy luniau a geiriau. Byddwn yn edrych ar fanteision ac anfanteision ysgrifennu mewn odl, ac ar sut y gall gwahanol arddulliau artistig gyfrannu at y stori. Cyn diwedd y cwrs byddwn yn trin a thrafod golygu eich gwaith sy’n rhan hanfodol o’r broses, a bydd y tiwtoriaid yn rhannu’u profiadau o’r hyn y mae cyhoeddwyr yn chwilio amdano, ac yn rhoi cyngor am baratoi portffolio.