Tiwtoriaid / Damian Gorman & Patrick Jones

Yn ystod cyfnodau poenus neu anodd yn eu bywydau, bydd nifer o bobl yn troi at ysgrifennu i gael noddfa a chysur. Byddwn yn aml yn troi at weithiau pobl eraill ar adegau o’r fath, ond a allwn ni ddefnyddio ein hysgrifennu ein hunain i geisio llonyddwch? All ysgrifennu gynnig iachâd yn dilyn galar, colled, neu drychineb? Fel y dywedodd Mary Oliver, “Pwy bynnag wyt ti, a dim ots pa mor unig wyt ti, mae’r byd yn cynnig ei hun i dy ddychymyg”.

Penwythnos hamddenol, cefnogol fydd hwn, gyda gweithdai, darlleniadau a thrafodaethau’n cael eu defnyddio i edrych ar sut y gall ysgrifennu creadigol leddfu’r boen pan fydd angen geiriau arnom sy’n “ddigon cryf i helpu” (Giorgos Seferis). Mae’r cwrs yn addas i awduron pob math o genres, gan gynnwys barddoniaeth, rhyddiaith ac ysgrifennu ffeithiol; ac efallai yn fwy perthnasol nag erioed yn y cyfnod hwn o fyw drwy’r pandemig.