Diddordeb mewn ysgrifennu? Ansicr am sut i fynd ati?

Dyma weithdy rhad ac am ddim i unrhywun sy’n byw, gweithio neu’n dwlu ar Dreorci. Dewch i gwrdd â’r awdur A R Turner a chreu eich gwaith eich hun ar gyfer Cawg Amser Treorci.

Arweinir gan yr awdur ac arlunydd Alix Edwards.

Dydd Llun, Gorffennaf 4ydd am 10.30yb, Llyfrgell Treorci, Station Road, Treorci CF42 6UD

Croeso i bawb – awduron, i chi sy’n chwilio am ysbrydoliaeth neu i’r rheini sydd am ysgrifennu rhestr siopa!