Dewislen
English
Cysylltwch

Canmlwyddiant Raymond Williams

Cyhoeddwyd Mer 26 Mai 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Canmlwyddiant Raymond Williams
MARK GERSON/NATIONAL PORTRAIT GALLERY, LLUNDAIN
I nodi canmlwyddiant ers genedigaeth Raymond Williams, mae Sefydliad Raymond Williams yn cefnogi rhaglen arbennig o weithgareddau yn 2021 â’r bwriad o ailgyflwyno rhai o’i syniadau allweddol i genhedlaeth heddiw.

Trwy ddatblygiad casgliad o adnoddau newydd, am ddim, ac wrth gefnogi deialog ar y cyd am berthnasedd cyfoes gwaith Raymond Williams, ceisia’r rhaglen adnewyddu dealltwriaeth gyhoeddus o’r ‘chwyldro hir’ heddiw.

Cefnoga Sefydliad Raymond Williams yr hyn a alwodd yn ‘Chwyldro Hir’ tuag at ‘ddemocratiaeth gyfranogol ac addysgedig’ trwy chwarae rhan mewn addysg oedolion a dysgu ar y cyd yn y gymuned.

Adnoddau Egluro Canmlwyddiant Raymond Williams

Mae’r adnoddau egluro newydd ac am ddim, yn cyflwyno amrywiaeth o gysyniadau allweddol o waith Raymond Williams i’r cyhoedd heddiw. Maent wedi eu creu gan amrywiaeth o bobl o Gymru, Lloegr, UDA, Canada ac yr Ariannin, sydd â diddordeb yn Raymond Williams ac a ymatebodd i alwad agored am grant i gwblhau’r gwaith. Bwriad yr adnoddau yma yw aildanio diddordeb yng ngwaith Raymond Williams a chynnal a hyrwyddo trafodaeth gyhoeddus am ei berthnasedd heddiw.

Mae’r tri adnodd egluro cyntaf ar gael ar y wefan, ac mae rhagor ar y ffordd yn fuan.

Fel rhan o’r gwaith ar y canmlwyddiant eleni, mae’r sefydliad wedi lansio eu gwefan newydd:

https://www.raymondwilliamsfoundation.org.uk/

Ochr yn ochr â’r adnoddau newydd, ceir ar y wefan newyddion yn ymwneud â’r canmlwyddiant, a digwyddiadau sydd yn cael eu cefnogi gan y sefydliad.

Bydd rhagor o wybodaeth ac adnoddau yn cael eu hychwanegu i’w gwefan dros yr wythnosau nesaf mewn adran ‘llyfrgell’ newydd sydd yn y broses o gael ei ddatblygu.