Dewislen
English
Cysylltwch

Natur a Ni: Beirdd Preswyl

Cyhoeddwyd Iau 17 Chw 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Natur a Ni: Beirdd Preswyl
Bydd y beirdd, Durre Shahwar ac Elan Grug Muse, yn ymateb yn greadigol i sgwrs genedlaethol ar ddyfodol amgylchedd naturiol Cymru fel rhan o Natur a Ni, ymgyrch genedlaethol sydd newydd ei lansio gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae Natur a Ni yn brosiect blwyddyn o hyd gyda’r nod o ddatblygu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer y flwyddyn 2050, trwy annog pobl i ddarganfod mwy am y ffyrdd mae ein gweithredoedd yn effeithio yr amgylchedd naturiol ac i ystyried sut mae angen i ni newid y berthynas rhwng ein cymdeithas a natur.

Drwy holiaduron, seminarau rhyngweithiol arlein, gweithdai a grwpiau ffocws, bydd Natur a Ni yn herio pobl ar draws Cymru i feddwl am y gwahanol ddyfodolau posibl, ystyried dyfodol yr amgylchedd naturiol yn eu hardal, ac i feddwl am sut y gallai penderfyniadau a wneir yng Nghymru gael effaith ar weddill y byd. Mae’r sgwrs genedlaethol hon yn ymdrech gydweithredol, sy’n cynnwys llawer o wahanol bobl a sefydliadau. O blant i gwmniau mawr, gall pawb gyfrannu a dweud eu dweud.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i hwyluso ymatebion creadigol i’r sgyrsiau Natur a Ni. Fel beirdd preswyl, bydd Durre Shahwar ac Elan Grug Muse yn cymryd rhan mewn digwyddiadau cenedlaethol, yn ogystal â chynnal gweithdai creadigol gyda ffermwyr yng Ngogledd Cymru a phobl Du, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig yng Nghaerdydd i gasglu eu syniadau am dyfodol yr amgylchedd yng Nghymru. Byddant wedyn yn creu ymatebion barddonol i’r sesiynau i’w rhannu’n eang dros Cymru gyfan.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae Llenyddiaeth Cymru yn credu’n gryf ym mhŵer trawsnewidiol llenyddiaeth. Yn ein gwaith, rydym yn ymdrechu i ddefnyddio creadigrwydd i godi ymwybyddiaeth am yr argyfwng hinsawdd, ac i ysbrydoli newid parhaol. Rydym yn hynod falch o gefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru gyda’r ymgyrch hon, lle bydd lleisiau amrywiol Cymru – trwy gerddi coeth Durre Shahwar ac Elan Grug Muse – yn ein helpu i archwilio a herio ein syniadau a’n gweithredoedd wrth i ni wynebu’r heriau sydd ar droed oherwydd yr argyfwng hinsawdd.”

Cafodd y beirdd eu dethol gan banel o gynrychiolwyr o Llenyddiaeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru a fu’n ystyried rhestr fer o 7 awdur a oedd wedi ymwneud â phrosiectau blaenorol fu’n archwilio’r Argyfwng Hinsawdd.

Dywedodd Elan Grug Muse “Mae angen i ni fod yn gwella’r ffordd ‘yda ni’n byw ar y blaned yma – ac nid dim ond byw mewn ffordd sy’n wyrddach, ond hefyd sy’n decach, ac yn fwy cyfiawn. Allwn ni ddim gwneud hynny heb wrando ar leisiau a storïau’r holl gymunedau sy’n cael eu heffeithio gan yr argyfwng hinsawdd a’r ffyrdd ‘yda ni’n dewis ymateb iddo fo. Dwi’n edrych ymlaen at ddysgu gan wahanol gymunedau yma yng Nghymru be all ‘byw yn well ar ein planed’ olygu iddyn nhw.”

Dywedodd Durre Shahwar “Mae pawb yn ddibynnol ar natur ac mae argyfwng hinsawdd yn rhywbeth sy’n ein effeithio ni i gyd, ond yn rhywbeth rydyn ni i gyd yn ymateb iddo mewn gwahanol ffyrdd. Gall newidiadau bach arwain at effaith fawr, ac edrychaf ymlaen at gydweithio a sgwrsio gydag amrywiaeth o gymunedau i ddarganfod sut mae’r newidiadau bach hynny yn edrych iddyn nhw.”

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae Natur a Ni yn ymwneud â phobl Cymru yn dod at ei gilydd mewn ymdrech ar y cyd i warchod ein hamgylchedd naturiol. Rydym ni angen actio nawr i taclo’r argyfyngau hinsawdd a natur, ond rydym hefyd am ddatblygu gweledigaeth ar gyfer ein dyfodol. Dyfodol y mae pawb yng Nghymru yn teimlo ei fod yn deg ac yn gyraeddadwy.”

“Yr unig ffordd y gallwn ni wneud hyn yw trwy wneud yn siŵr ein bod yn clywed gan gymaint o leisiau â phosib o bob rhan o gymdeithas.”

 

 

Bywgraffiadau’r Beirdd

Elan Grug Muse
Awdur o Ddyffryn Nantlle yw Elan Grug Muse. Mae hi’n ysgrifennu barddoniaeth ac ysgrifau yn bennaf, ond mae hi hefyd yn olygydd a chyfieithydd. Cyhoeddwyd ei chasgliad diweddaraf, merch y llyn, yn 2021, ac mae ei gwaith wedi’i gynnwys yn O’r Pedwar Gwynt, Codi Pais, Poetry Wales, Wales Arts Review, ac wedi’i gyfieithu i’r Groeg a’r Croateg. Bu hi yn gyd-olygydd o’r casgliad o ysgrifau Welsh (plural) a fydd yn ymddangos gyda Repeater yng ngwanwyn 2022, ac hefyd o Dweud y Drefn Pan Nad Oes Trefn, casgliad o farddoniaeth gyfoes a gyhoeddwyd yn 2020. Mae’n archwilio themâu o hunaniaeth ac iaith, yn ogystal â natur a’r argyfwng hinsawdd yn ei gwaith.
Durre Shahwar
Mae Durre Shahwar yn awdur, ymchwilydd, ac yn gyd-sylfaenydd o ‘Where I’m Coming From’, cydweithfa gymunedol ar gyfer awduron o liw yng Nghymru. Mae ei Gwaith wedi’i wreiddio mewn hwyluso cymunedol, ymchwil, a chreadigrwydd, gan groesi’r ffiniau rhwng ysgrif, hunan-ffuglen, a barddoniaeth ryddiaith. Mae Durre yn ymgeisydd PhD AHRC mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae’n dysgu Ysgrifennu Creadigol. Mae ei Gwaith wedi’i gyhoeddi mewn amryw o leoedd, yn enwedig: Know Your Place: Essays on the Working Class (Dead Ink Books), We Shall Fight Until We Win (404 Ink), Homes For Heroes 100 (Festival of Ideas). Bu hefyd yn gyd-olygu Just So You Know (Parthian Books). Mae Durre yn gweithio ar ei llyfr cyntaf am berthyn fel person Cymreig-Pacistanaidd.
durreshahwar.com / @Durre_Shahwar