Dewislen
English
Cysylltwch

A Writing Chance: Straeon newydd gan leisiau sydd wedi eu tangynrychioli

Cyhoeddwyd Iau 25 Chw 2021 - Gan A Writing Chance
A Writing Chance: Straeon newydd gan leisiau sydd wedi eu tangynrychioli
Mae A Writing Chance nawr ar agor i storïwyr newydd ac uchelgeisiol o gefndiroedd sydd wedi eu tangynrychioli. Mae’r cyfle agored hwn yn chwilio am safbwyntiau newydd a straeon gwych gan bobl sydd o gefndiroedd nad sydd yn hanesyddol yn cael eu cynrychioli’n ddigonol yn y byd cyhoeddi na’r cyfryngau.

Caiff y prosiect hwn yn cael ei gyd-ariannu gan Sefydliad Joseph Rowntree a’i gefnogi gan y New Statesman a’r Daily Mirror. Cyflawnir y prosiect gan New Writing North gyda chefnogaeth gan Llenyddiaeth Cymru a sefydliadau llenyddol ar draws Prydain, a cyflawnir yr ymchwil gan Brifysgol Northumbria.

 

Addasu’r safbwynt

Mae cynrychiolaeth yn hanfodol. Mae’r cyfryngau yn fframio sut rydyn ni’n meddwl ac yn teimlo amdanon ni’n hunain a’r byd o’n cwmpas. Gall llenyddiaeth da ddangos i ni pwy ydym ni drwy ddatgelu straeon a phrofiadau cudd, datguddio’r gwir a dod ag anghyfiawnderau ac anghydraddoldebau strwythurol i’r amlwg.

Ond, mae’n amlwg o ymchwil fod y rheiny sy’n ysgrifennu ac yn gosod yr agenda yn gwneud hynny â phrofiad gymharol gul. Mae A Writing Chance yn credu ei bod hi’n bryd ehangu’r diwydiant fel y gallwn ni i gyd elwa o ddiwylliant cyfoethocach.

Mae A Writing Chance yn ymyrraeth gadarnhaol, sydd wedi ei ddylunio i ddarganfod talent newydd, rhoi cefnogaeth i awduron o gefndiroedd sydd wedi eu tangynrychioli i ddatblygu yn y diwydiannau creadigol, a grymuso cyhoeddwyr a golygyddion i ehangu eu safbwyntiau.

 

Y Cyfle: Mentora a chyhoeddi awduron newydd

Mae A Writing Chance yn chwilio am awduron newydd ac uchelgeisiol o gefndiroedd dosbarth gweithiol ac incwm isel.

Maent yn benodol yn croesawu ceisiadau gan y rheiny sydd wedi ac yn parhau i wynebu croestoriad o heriau o dangynrychiolaeth hanesyddol yn y cygryngau, gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i’r rheiny o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, neu unigolion anabl.

Bydd pob ymgeisydd llwyddiannus (deg i gyd) yn derbyn:

  • £ 1,500 i gymryd rhan yn y prosiect
  • Mentora un-i-un gydag awdur neu newyddiadurwr profiadol
  • Gwahoddiad i ddyddiau mewnwelediad gyda’r partneriaid yn y cyfryngau
  • Cyhoeddiad gydag un o’n partneriaid cyfryngau, sydd yn cynnwys y Daily Mirror neu’r New Statesman, neu ddarllediad fel podlediad.

Dyddiad cau: 26 Mawrth 2021

Am ragor o wybodaeth, neu i ymgeisio, cliciwch yma.