Dewislen
English
Cysylltwch

Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad yn dychwelyd: Cyfle i Awduron Byddar a/neu Anabl a/neu’n Niwroamrywiol ymuno â chwrs ysgrifennu creadigol digidol

Cyhoeddwyd Iau 18 Gor 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad yn dychwelyd: Cyfle i Awduron Byddar a/neu Anabl a/neu’n Niwroamrywiol ymuno â chwrs ysgrifennu creadigol digidol

Mae Llenyddiaeth Cymru, mewn partneriaeth â Chelfyddydau Anabledd Cymru, unwaith eto yn falch o wahodd awduron Byddar a/neu Anabl a/neu’n Niwroamrywiol sydd yn byw yng Nghymru i ymgeisio am le ar ein cwrs ysgrifennu creadigol digidol, Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad a fydd yn cael ei gynnal yn ystod gaeaf 2024 – gwanwyn 2025. 
Dyddiad Cau: 12.00pm, dydd Iau, 29 Awst 

Dyddiadau’r cwrs: 6, 13, 20, 27 Tachwedd 2024, gyda sesiynau un-i-un a’r gweithdy olaf yn cael eu cynnal ym mis Ionawr a mis Chwefror 2025. 

Bydd y tiwtor yn penderfynu ar yr amser mwyaf cyfleus unwaith mae’r grŵp wedi cael ei benodi. 

Sesiynau galw heibio: Dydd Mercher 24 Gorffennaf 1.00pm-2.00pm, Dydd Mawrth 6 Awst, 1.00-2.00pm.

Gan adeiladu ar lwyddiant cwrs peilot y llynedd, bydd rownd nesaf o Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad unwaith eto yn croesawu hyd at ddeg awdur Byddar a/neu Anabl a/neu’n Niwroamrywiol i fynychu cyfres o bump gweithdy ar-lein, a sesiynau un-i-un wedi eu teilwra dan arweiniad y dramodydd a’r awdur o fri rhyngwladol, Kaite O’Reilly.

Meddai Grace Quantock, un o gyfranogwyr 2023-2024:

“Mae’r cwrs wedi bod yn drawsnewidiol – mor anaml y mae awduron Anabl a phobl â chyrff ymylol yn cael eu dathlu a’u gosod yn ganolbwynt. Mae’r profiad o ddysgu sut i greu celf o fy mywyd, o’r hyn sy’n aml yn cael ei anwybyddu o fewn diwylliant ehangach neu hyd yn oed gan dimau meddygol wedi bod yn bwerus. Roedd archwilio diwylliant anabl yn ddi-ofn yn brofiad llesol ac rwy’n gobeithio y bydd darllenwyr anabl a phawb arall sy’n darllen y gwaith sy’n deillio o’r gyfres o weithdy anhygoel hon yn profi’r un peth.”

Ar gyfer pwy mae’r cwrs? 

Mae Llenyddiaeth Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru yn croesawu ceisiadau gan awduron Byddar a/neu Anabl a/neu’n Niwroamrywiol sydd yn byw yng Nghymru. Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer awduron ymroddedig o bob genre, gan gynnwys barddoniaeth, rhyddiaith, ffeithiol greadigol, a sgriptiau. Rydym yn croesawu cais gennych chi os ydych chi’n awdur ar gychwyn eich gyrfa sy’n gobeithio datblygu eich sgiliau ysgrifennu, neu’n awdur mwy profiadol sydd â’r bwriad o ailddyfeisio’ch prif gymeriadau.

 

Beth fydd y cwrs yn ei gynnwys? 

Gan ddefnyddio’r enghreifftiau fwyaf cyffrous o farddoniaeth, ffuglen, a dramâu a ysgrifennwyd gan awduron anabl a Byddar, bydd y gweithdai’n gyfle i herio ystrydebau, ystyried naratif newydd, ac edrych ar ailddyfeisio cymeriadau, ystyried diweddglo annisgwyl, ac yn edrych ar adnewyddu’r iaith yn ein gwaith.  

Gellir gweld enghraifft fer o’r hyn i’w ddisgwyl ym mhob sesiwn yma: Cynnwys y Cwrs. 

Meddai Kaite O’Reilly, Tiwtor y cwrs:

“Rwy’n falch iawn bod ‘Ailddyfeisio’r Prif gymeriad’ yn cael ei gynnal eto eleni. Creais y cwrs i herio agweddau diwylliannol sy’n arddel ablaeth drwy gefnogi a datblygu awduron Byddar, anabl a niwroamrywiol yng Nghymru, talent sy’n aml yn cael ei hanwybyddu ond sydd gyda safbwyntiau ffres ac wrthdroadol i’w rhannu. Rydym yn archwilio canon amgen, cynhwysol drwy ddarllen a dathlu awduron anabl a Byddar rhyngwladol, tra’n annog ein carfan o Gymru i gryfhau eu hymarfer a datblygu eu ‘llais’ drwy ymarferion crefft. Y llynedd fe wnaethom greu cymuned fach, gefnogol ac mae eu gwaith eisoes yn cael ei gydnabod mewn cyhoeddiadau a llwyfannau. Mae gennym ni obeithion mawr ar gyfer eleni, ac wedi ein cyffroi gan yr hyn a all ddeillio o dalent a oedd yn gudd neu wedi’i hymylu yn flaenorol.”

Dywedodd Nye Russel-Thompson, Swyddog Datblygu Celfyddydau Perfformio a Llenyddiaeth ar gyfer Celfyddydau Anabledd Cymru:

“Rwyf mor falch ein bod yn gallu cyflawni ail flwyddyn o Ailddyfeisio’r Prif gymeriad, yn enwedig ar ôl gweithio gyda charfan dalentog y llynedd. Kaite O’Reilly yn ôl i roi cyfres arall o weithdai? Grŵp arall o artistiaid dawnus sydd am archwilio a datblygu genres eraill o ysgrifennu? Anhygoel! Rwy’n gyffrous iawn i Gelfyddydau Anabledd Cymru a Llenyddiaeth Cymru fod yn gweithio ar rownd arall o hyn.”

Hygyrchedd

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal dros blatfform digidol Zoom a bydd pob gweithdy digidol yn para 2.5 awr, gydag egwyl yn y canol. Os oes angen at ddibenion mynediad, gellir recordio sesiynau er mwyn galluogi cyfranogwyr eu gwylio yn ôl yn eu hamser eu hunain. 

Bydd Llenyddiaeth Cymru  yn darparu dogfen hygyrchedd i bob ymgeisydd llwyddiannus, er mwyn holi am unrhyw ofynion mynediad sydd gennych. Byddwn yn cynnig cymorth digonol lle bo angen. Er enghraifft, gallwn drefnu gwasanaeth capsiwn byw neu ddehonglydd BSL i fod yn bresennol yn ystod y sesiynau. Bydd staff Llenyddiaeth Cymru hefyd ar gael i sgwrsio neu ateb gwestiwn cyn y cwrs er mwyn sicrhau bod y cwrs mor hygyrch, cyfforddus a phleserus ac sydd yn bosib i bob unigolyn. 

Sut gallaf ymgeisio am le ar y cwrs? 

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais, a darparu enghraifft byr o’ch gwaith creadigol gwreiddiol (1,000 o eiriau neu hyd at 5 cerdd). Gall y gwaith hwn fod yn farddoniaeth, rhyddiaith, ffeithiol neu’n sgript.  

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 12.00pm, 29 Awst 2024

Cewch ragor o wybodaeth ar y dudalen hon: Sut i wneud Cais 

Os hoffech chi sgwrsio ag aelod o staff cyn gwneud cais, e-bostiwch Llenyddiaeth Cymru ar post@llenyddiaethcymru.org neu ffoniwch ni am sgwrs: 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd) neu 02920 472266 (Swyddfa Caerdydd). Neu gallwch gysylltu â ni ar gyfryngau cymdeithasol. 

Bydd staff Llenyddiaeth Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru hefyd ar gael i ateb eich cwestiynau yn ystod dwy sesiwn ddigidol anffurfiol. 

Cofrestrwch ar gyfer y sesiwn drwy glicio ar y dyddiadau isod: 

Dydd Mercher, 24 Gorffennaf am 12.00pm-1.00pm 

Dydd Mawrth, 6 Awst am 12.00pm-1.00pm 

Mae rhagor o wybodaeth am y tiwtor, hygyrchedd, cynnwys y cwrs, Cwestiynau Cyffredin a’r broses ymgeisio i’w gweld ar dudalen prosiect Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad ar wefan Llenyddiaeth Cymru.  

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o weithio  mewn partneriaeth â Celfyddydau Anabledd Cymru ar y cwrs hwn ac yn ddiolchgar am eu cefnogaeth.