Dewislen
English
Cysylltwch

Arolwg Cylchlythyr Llenyddiaeth Cymru

Cyhoeddwyd Gwe 29 Mai 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Arolwg Cylchlythyr Llenyddiaeth Cymru
Llun - Ffotonant

Er mwyn sicrhau ein bod yn cyfathrebu gwaith Llenyddiaeth Cymru mor effeithlon â phosib, rydym wedi creu holiadur byr ynglŷn â’n Cylchlythyr. Byddwn yn defnyddio’r adborth anhysbys er mwyn datblygu cynnwys a diwyg cylchlythyrau’r dyfodol. Mae’r arolwg wedi ei greu â’r bwriad o gasglu adborth gan ein tanysgrifwyr presennol, yn ogystal â barn eraill sy’n ymwneud â Llenyddiaeth Cymru.

Mae’r arolwg hwn yn cynnwys pum cwestiwn monitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth er mwyn ceisio sicrhau ein bod yn cyfathrebu â chynulleidfa mor eang a phosib. Bydd y data yn ein cynorthwyo i fonitro effeithlonrwydd ein Polisïau Cydraddoldeb, a sut yr ydym yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010. Gall y data gael ei rannu’n anhysbys â thrydydd parti er mwyn gwella amrywiaeth ar draws y sector gelfyddydol.

Gofynnwn yn garedig i chi gwblhau’r arolwg isod:

Cwblhewch yr arolwg yma

Bydd ar agor nes 5pm 18 Mehefin 2020, ac ni ddylai gymryd mwy na 5 munud i’w gwblhau.

Diolch o galon am eich amser.