Dewislen
English
Cysylltwch

Barddoniaeth Bob Dydd: Cyfle newydd i egin feirdd

Cyhoeddwyd Mer 19 Awst 2026 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Barddoniaeth Bob Dydd: Cyfle newydd i egin feirdd
Rydym yn gwahodd ceisiadau gan feirdd sydd am ddatblygu eu sgiliau ar gyfer preswyliad 5 diwrnod rhad am ddim yn Nhŷ Newydd ym mis Tachwedd 2026.
P’un a ydych chi’n paratoi cerddi i’w cyhoeddi, yn llunio pamffled neu gasgliad, neu’n meddwl am ble y gallai ysgrifennu fynd â chi nesaf, mae ein cwrs Barddoniaeth Bob Dydd ar eich cyfer chi. Bydd y preswyliad yn cynnig amser, gofod a chefnogaeth i’ch helpu i symud ymlaen i’r camau nesaf yn eich taith greadigol.

Ar gyfer y cwrs hwn, rydym yn chwilio am feirdd sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn y byd barddoniaeth a chyhoeddi yng Nghymru. Gellir darllen canllawiau pellach ar hyn yn ein hadran Cwestiynau Cyffredin. Rhaid i awduron fod yn 18 oed neu’n hŷn ar adeg y cais. Rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau gan awduron nad ydynt wedi elwa o raglenni datblygu awduron Llenyddiaeth Cymru neu ein hencilion rhad ac am ddim yn Nhŷ Newydd o’r blaen.

Bydd cwrs Barddoniaeth Bob Dydd yn cael ei diwtora gan rai o feirdd cyfoes mwyaf cyffrous Cymru. Mae Meleri Davies yn rhoi llais i gariad a cholled trwy farddoniaeth sydd yn dyner ac yn llawen ar yr un pryd, tra bod gwaith Rhian Elizabeth yn farddonol, yn ffraeth ac yn onest heb ymddiheuriad. Mae gan y ddwy allu rhyfeddol i ddal cyfarwyddrwydd bywyd bob dydd mewn ffyrdd sy’n aros gyda’r darllenydd ymhell ar ôl darllen. Gyda hyn mewn golwg, rydym yn annog beirdd i gyflwyno gwaith creadigol ar themâu sy’n ymwneud ag uchafbwyntiau ac isafbwyntiau dwfn bywyd bob dydd. Boed yn rwystredigaeth o redeg allan o laeth ar gyfer eich paned foreol (eto), poen (a rhyddhad) diwedd perthynas, neu safbwynt ar fywyd yng Nghymru.

Mae Meleri a Rhian ill dwy wedi cymryd rhan mewn rhaglenni datblygu awduron sy’n gysylltiedig â Llenyddiaeth Cymru o’r blaen ac yn edrych ymlaen at drosglwyddo eu dysgu i feirdd sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru.

Yn ystod y cyfnod preswyl, bydd awduron yn mireinio eu crefft trwy amrywiaeth o weithdai ac ymarferion grŵp. Byddant yn derbyn cyngor ac adborth unigol gan y ddau diwtor a byddant yn clywed gan gynrychiolwyr o fewn y diwydiant cyhoeddi a llenyddiaeth i ddysgu am gyfleoedd a llwybrau gyrfa sydd ar ddod. Cyhoeddir siaradwyr gwadd ychwanegol ar gyfer yr wythnos maes o law. Bydd awduron hefyd yn derbyn digon o amser rhydd i archwilio amgylchoedd hardd Tŷ Newydd, mwynhau bwyd cartref wedi’i baratoi gan ein cogydd preswyl, ac ymlacio yn un o’n llyfrgelloedd gyda’ch cyd-awduron.

Bydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i gefnogi pob awdur yn dilyn y cwrs, gyda sesiwn ddilynol rithiol gydag un o’ch tiwtoriaid a chyfle i gyfarfod yn rhithiol chwe mis ar ôl y cwrs.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5.00 pm ddydd Mercher 30 Medi 2026.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cyfle hwn, gan gynnwys Cwestiynau Cyffredin, meini prawf cymhwysedd a manylion ar sut i wneud cais ar dudalen y cwrs Barddoniaeth Bob Dydd. Mae’r holl ddogfennau hefyd ar gael mewn print bras a fformatau sy’n ddyslecsia gyfeillgar.

Rydym yn ddiolchgar i’n harianwyr sydd wedi gwneud y cyfle hwn yn bosibl: Y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

 

Mwy o wybodaeth am eich tiwtoriaid a’ch siaradwr gwadd:

Mae Meleri yn fardd a llenor o Ddyffryn Ogwen. Mae wedi cyhoeddi ei gwaith mewn nifer o gyhoeddiadau a cyhoeddwyd ei chyfrol cyntaf o farddoniaeth Rhuo ei distawrwydd hi (Cyhoeddiadau’r Stamp) yn 2024. Aeth y gyfrol yn ei blaen i ennill categori Farddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2025 ac mae wedi cael ei ail-argraffu pedwar gwaith mewn cyfnod o naw mis. Mae hi’n angerddol am gymunedau, cynaladwyedd a chreadigrwydd ac am ddegawd, arweiniodd fenter gymdeithasol Partneriaeth Ogwen gan ddatblygu prosiectau pwysig i’r ardal, fel Ynni Ogwen. Mae hi bellach yn gweithio’n llawrydd fel ymarferydd creadigol ac yn ymgynghorydd datblygu cymunedol. Mae Meleri wedi ei phenodi yn Artist Mewn Gwasanaeth i brosiect Plas y Bobl, Parc Cenedlaethol Eryri ac mae hi hefyd yn gweithio ar nofel gyda Gwasg y Bwthyn a monolog gyda chwmni theatr Fran Wen fydd yn cael ei lwyfannu ym mis Ionawr 2027.

Mae Rhian Elizabeth yn gwnselydd dan hyfforddiant ac yn awdur. Cyhoeddwyd ei nofel cyntaf, Six Pounds Eight Ounces, yn 2014 gan Seren Books ac mae’n cael ei haddasu ar gyfer y teledu ar hyn o bryd, a’i chasgliadau barddoniaeth – The Last Polar Bear on Earth (Parthian Books, 2018), a Girls etc (Broken Sleep Books, 2024), a enillodd Wobr Farddoniaeth Llyfr y Flwyddyn a Gwobr Barn y Bobl Nation Cymru 2025. Mae ei rhyddiaith a’i barddoniaeth wedi ymddangos mewn llawer o gylchgronau ac antholegau ledled y byd ac wedi’u rhestru mewn amryw o gystadlaethau a gwobrau, gan gyrraedd restr hir Gwobr Farddoniaeth Plaza yn ddiweddar ac ennill cystadleuaeth farddoniaeth Verve Press, yn ogystal â chael ei chynnwys ar raglen PM Radio 4 y BBC. Maybe I’ll Call Gillian Anderson yw ei chasgliad diweddaraf o farddoniaeth, a gyhoeddwyd gan Broken Sleep Books.