Blog: Paratoi eich ysgrifennu ar gyfer cyhoeddi – pam ei fod yn bwysig

Ond pa sgiliau, technegau a dulliau sydd eu hangen ar gyfer y cam hwn o’r broses greadigol?
Byddaf yn tiwtora ar encil o’r enw ‘Paratoi eich ysgrifennu ar gyfer Cyhoeddi’ yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd o ddydd Llun 27 – dydd Gwener 31 Gorffennaf 2026, lle byddaf yn treiddio’n ddwfn i’r broses ddrwg-enwog o anfon eich llawysgrif allan i’r byd. Byddwn yn archwilio pa ffordd orau i wneud hynny o ystyried eich sefyllfa bresennol chi, boed chi’n chwilio am asiant llenyddol, cytundeb llyfr, neu gyhoeddiad yn rhywle arall.
Y gwir amdani yw, o fewn ‘cyhoeddi traddodiadol’ (yn hytrach na hunan-gyhoeddi), bod slotiau’n gyfyngedig felly bydd gan awduron y cyfle gorau i ddod o hyd i gartref i’w gwaith os ydynt yn strategol ynghylch sut maent yn mynd ati i gyflwyno.
Yn ystod yr encil, byddwn yn cynnal gweithdai o wahanol strategaethau ar gyfer cyflwyno barddoniaeth a rhyddiaith a byddwn yn gwella ein cyflwyniadau mewn sesiynau dosbarth meistr. Byddaf yn defnyddio fy 25 mlynedd o brofiad mewn cyhoeddi ar gyfer y cyngor y byddaf yn ei rannu gydag awduron sy’n dod i’r amlwg. Byddaf yn rhannu awgrymiadau a ges i pan, yn un o fy swyddi cyntaf ym myd cyhoeddi, roedd gen i’r dasg o hidlo’r pentwr cyflwyniadau mewn asiantaeth lenyddol – doeddwn i byth yn hoffi ei alw’n ‘bentwr slush’, oherwydd des i o hyd i lawer o berlau llenyddol ynddo!
Dangosodd chwe blynedd o weithio ar banel ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru i mi hefyd beth oedd yn gwneud i gais serennu, tra bod fy swydd fel cyhoeddwr yn golygu bod yn rhaid i mi ddatblygu crefft o amgylch mireinio cynigion er mwyn argyhoeddi golygyddion llenyddol, cynhyrchwyr radio a rhaglennwyr gwyliau i wahodd yr awduron roeddwn i’n eu cynrychioli i gael eu hadolygu, gael comisiwn i ysgrifennu erthyglau nodwedd neu ymddangos ar y llwyfan. Mae rhoi sylw i’r manylion yn wirioneddol bwysig, fel y mae meddylfryd cadarnhaol.
Yn y gweithdai ymarferol a rhyngweithiol byddwn yn beirniadu amrywiaeth o gynigion rydw i wedi’u paratoi fel y byddwch chi’n gadael yr encil wedi dysgu sut i gynyddu eich siawns o lwyddo. Byddaf hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau 1:1 gyda phawb ar y cwrs i’w hyfforddi ar sut i wella cyflwyniad eu gwaith creadigol.
Ond nid dyna’r cyfan… Bydd y nofelydd Carole Hailey a’r cyhoeddwr o Lucent Dreaming, Jannat Ahmed, hefyd yn dod i rannu eu profiad o ddau begwn y maes – denu diddordeb cyhoeddwr mawr ac ar yr hyn sy’n gwneud cyflwyniad yn sefyll allan i olygydd. Buaswn i wrth fy modd pe baech chi’n ymuno â ni!
Mae Julia Forster yn awdur cyhoeddedig ar draws genres lluosog, yn hyfforddwr awduron ac yn arbenigwr datblygu awduron sy’n cynnal yr encil ‘Paratoi eich ysgrifennu ar gyfer cyhoeddi’ yn Nhŷ Newydd o 27-31 Gorffennaf 2026.