Dewislen
English
Cysylltwch

Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yw Pencadlys Newydd Llenyddiaeth Cymru

Cyhoeddwyd Gwe 30 Medi 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi sefydlu Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy, fel ein pencadlys newydd.

Bydd cartref swyddogol newydd Llenyddiaeth Cymru yng Ngwynedd, sir sy’n gyfoethog o ran diwylliant a’r celfyddydau. Dyma fydd y cwmni celfyddydol cenedlaethol cyntaf i fagu gwreiddiau parhaol yn y gogledd, gyda’r saith cwmni cenedlaethol arall yn y de – Theatr Genedlaethol Cymru yng Nghaerfyrddin, a’r lleill oll yng Nghaerdydd.

Bae Caerdydd fu lleoliad y pencadlys blaenorol ers sefydlu’r cwmni cenedlaethol yn 2011, a bydd ein swyddfa yno yng Nghanolfan Glyn Jones, Canolfan Mileniwm Caerdydd, yn parhau ar agor ac yn weithredol – gan gynnig safle gwaith i’n staff sy’n parhau i weithio o’r Brifddinas.

Sefydlwyd Tŷ Newydd fel Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru yn 1990, ac ers hynny mae wedi croesawu cannoedd o awduron o Gymru a thu hwnt ar gyrsiau ysgrifennu creadigol. Daeth sawl awdur nodedig o hyd i’w llais yn y ganolfan, a cafodd sawl un arall gyfle i hogi eu sgiliau fel tiwtoriaid proffesiynol a mwynhau dysgu eu crefft i eraill.

Mae Tŷ Newydd yn rhan o Llenyddiaeth Cymru ers pan unwyd y Ganolfan a’r sefydliad datblygu awduron, Academi, ychydig dros ddegawd yn ôl i greu’r sefydliad cenedlaethol newydd unedig. Mae’r ganolfan eisoes yn swyddfa barhaol i bron hanner staff y sefydliad.

Mae Tŷ Newydd yn adeilad nodedig iawn, ac yn dal statws rhestredig gradd II*. Fe’i adeiladwyd yn wreiddiol yn y bymthegfed ganrif, ond ychwanegwyd addasiadau pensaernïol eithriadol yn y cyfnod Sioraidd a thrawsnewid blaen y tŷ i’r olygfa odidog a welir heddiw. Ail-ddyluniwyd y tŷ eto ym mhedwardegau’r ganrif ddiwethaf gan bensaer enwog Portmeirion, Clough Williams Ellis, ar gyfer y cyn Brif Weinidog, David Lloyd George, a’i ail wraig Frances Stevenson. Bu farw Lloyd George yn Nhŷ Newydd yn 1945, ac mae sawl nodwedd o’i gyfnod yn preswylio yma yn parhau i fod yn amlwg iawn yn y ganolfan yn cynnwys y sêr canhwyllau trydan yn y llyfrgell, a sinc binc yn ystafell wely Frances.

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Mae gan y gornel hon o Eifionydd hanes cyfoethog ac rwy’n hyderus fod y newyddion fod Llenyddiaeth Cymru yn symud ei bencadlys i’r fro yn ddechrau pennod cyffrous newydd yn y stori.

“Rydw i’n croesawu’r ffaith fod y sefydliad nodedig yma’n dewis gwneud y newid hwn, gan danlinellu’r ffaith fod Gwynedd yn le braf i fyw a gweithio ynddo. Hyderaf bydd hyn yn atgyfnerthu’r sector diwylliannol yn yr ardal ac y bydd yn hwb pellach i’r economi wledig yng Ngwynedd.”

Dywedodd Liz Saville Roberts AS a Mabon ap Gwynfor AS: “Dyma newyddion arbennig o gyffrous sydd i’w groesawu yn fawr. Rydym yn hynod falch fod Llenyddiaeth Cymru wedi dewis Dwyfor fel cartref newydd eu pencadlys, ac yn arbennig Tŷ Newydd, Llanystumdwy – lleoliad sydd â hanes cyfoethog ac enw da o ysbrydoli a meithrin talent llenyddol o Gymru a thu hwnt. Mae’n destun balchder fod Llenyddiaeth Cymru yn ehangu gwreiddiau yma yng Ngwynedd, gan osod cynsail pwysig i ddatblygu yr arlwy celfyddydol a diwylliannol sydd yn cyfoethogi’r sir hon. Hyderwn y bydd y newyddion hyn yn arwain at ddiogelu a datblygu cyfleoedd gwaith lleol ynghyd a chryfhau apêl yr ardal fel cyrchfan boblogaidd i lenorion, beirdd ac yn wir, unrhyw un sy’n ymddiddori yn y grefft o ysgrifennu. Gyda pharatoadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd yn eu hanterth, mae’r newyddion cyffrous hyn yn gosod sylfaen gadarn i ddatblygu yr hyn sydd gan Wynedd i’w chynnig o ran diwylliant celfyddydol. Edrychwn ymlaen yn arw i groesawu Llenyddiaeth Cymru yn swyddogol i Ddwyfor.”

Meddai y Cynghorydd Rhys Tudur, sy’n cynrychioli Llanystumdwy ar Gyngor Gwynedd, “Dwi’n hynod falch bod Tŷ Newydd am gael ei ddynodi yn Bencadlys Llenyddiaeth Cymru, ac yn croesawu’r ffaith bod y Pencadlys yn cael ei ail leoli o’r Brifddinas i Ddwyfor wledig. Mi fydd yn hwb economaidd a diwylliannol i’r ardal ac yn ysgogi mwy i ymddiddori mewn diwylliant Cymreig. Mae’r amseru yn berffaith o ystyried bod Eisteddfod Genedlaethol am ddod i Lŷn ac Eifionydd y flwyddyn nesaf.”

Meddai Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru, sy’n gweithio o’r Ganolfan ers saith mlynedd, “Mae Tŷ Newydd yn cynrychioli ein gwerthoedd fel sefydliad, mae’n gartref croesawgar, cynnes, a’i drysau bob amser led y pen ar agor i awduron Cymru. Ein gweledigaeth yw Cymru sydd yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth, a rydym yn edrych ymlaen i barhau â’r weledigaeth honno o bencadlys sy’n annwyl iawn i’n staff, i’n hawduron, a’n cymunedau amrywiol sy’n ymwneud â’n gwaith. Edrychwn ymlaen at gyd-weithio â chymuned Llanystumdwy yn agosach hefyd i gynnal prosiectau llên er iechyd a llesiant, i roi rhywbeth yn ôl i’r pentref a’r ardal ehangach sy’n ein cynnal.”

Mae Tŷ Newydd yn cynnal cyrsiau undydd, preswyl a digidol i awduron ar bob cam o’u gyrfa, ac mewn sawl maes gwahanol, o farddoniaeth i ryddiaith, o ffeithiol-greadigol i ysgrifennu am fyd natur. Mae ysgoloriaethau ar gael i awduron sy’n methu â thalu ffioedd cyrsiau, a gostyngiadau i breswylwyr lleol. Yn ogystal â chyrsiau masnachol, mae rhaglen o gyrsiau strategol yn rhedeg yn flynyddol, yn cynnig cyrsiau rhad ac am ddim i unigolion sy’n cael eu tangynrychioli yn y byd llenyddol. Mae Tŷ Newydd hefyd yn gartref i grwpiau ysgrifennu a darllen lleol, yn croesawu ysgolion, ac yn gweithredu prosiectau llenyddiaeth er iechyd er llesiant.