Ceisiadau Llyfr y Flwyddyn 2027 Ar Agor

Mae ffenestr cyflwyno ceisiadau nawr ar agor ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2027, dathliad blynyddol o weithiau llenyddol o Gymru sy’n rhagori mewn ffurfiau amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae pedwar categori yn y ddwy iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc, gyda un o’r enillwyr categori hyn yn mynd ymlaen i ennill y Brif Wobr, ac yn hawlio’r teitl Llyfr y Flwyddyn.
Mae 12 gwobr, gyda chyfanswm o £14,000 ar gael i’r awudron llwyddiannus. Yn y ddwy iaith, bydd pedwar ennillydd categori, un enillydd Barn y Bobl ac un prif enillydd.
Caiff y rhestr fer, a fydd yn cynnwys tri llyfr ym mhob categori, ei chyhoeddi yn y Gwanwyn, gydag enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2027 yn cael eu datgelu mewn seremoni fyw yn ystod yr Haf.
Gwahoddir cyhoeddwyr ac awduron hunan-gyhoeddedig i wirio’r Meini Prawf Cymhwysedd a chyflwyno unrhyw lyfrau cymwys a gyhoeddwyd yn ystod 1 Ionawr – 31 Rhagfyr 2026.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw 24 Tachwedd 2026.
I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys y Meini Prawf Cymhwysedd, Telerau ac Amodau a’r Ffurflen Gais, ewch draw i dudalen prosiect Llyfr y Flwyddyn ar wefan Llenyddiaeth Cymru.