Celf yn ysgogi cerddi gan blant Cymru

Yn gynharach eleni, bu Bardd Plant Cymru, Nia Morais yn teithio hyd a lled Cymru, gan ymweld â saith ysgol i arwain gweithdai creadigol oedd yn archwilio’r berthynas rhwng llun a llenyddiaeth. Yn defnyddio’r broses egffrastig (o’r gair Groegaidd ekphrasis), bu’r bobl ifanc yn pori drwy gasgliad celf gyfoes Amgueddfa Cymru ar-lein, ac yn ymateb drwy greu cerddi cynnil yn llawn delweddau. Yr ysgolion fu’n cymryd rhan oedd:
- Ysgol Gyfun Bryn Tawe, Penlan, Abertawe
- Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy
- Ysgol Gyfun Cwm Rhondda,
- Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn
- Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam
- Ysgol Gynradd Gymraeg Pen-y-Groes, Pentwyn
- Ysgol Bro Caereinion, Llanfair Caereinion
Bu’r disgyblion yn edmygu’r celf ac ym meithrin eu sgiliau dadansoddi a dehongli drwy gyfrwng y Gymraeg. Cawsant ddysgu fod profiad pob un unigolyn o waith celf yn unigryw, a fod gan gelf – yn baentiadau, cerflunwaith, ffotograffiaeth, fideos a mwy – y gallu i ysgogi emosiynau o bob math, a fod dadansoddiad pob plentyn yn berthnasol ac yn ddilys.
Diolch i Llywodraeth Cymru am noddi’r prosiect hwn.
Mae Celf ar y Cyd yn rhan o fenter ehangach Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth gydag Amgueddfa Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Caiff cynllun Bardd Plant Cymru ei reoli gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.