Dewislen
English
Cysylltwch

Cerddi Plant y Garreg Las!

Cyhoeddwyd Gwe 17 Gor 2026 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cerddi Plant y Garreg Las!
Ysgol Bro Preseli gyda phamffled Cerddi Plant y Garreg Las

Beth ’dych chi’n ei gael pan rych chi’n croesi pedwar bardd gyda dros 500 o blant, tair sir, 24 gweithdy creadigol ac Eisteddfod Genedlaethol?

Llond y lle o hwyl a llawer o gerddi sy’n darlunio broydd yr ŵyl drwy lygaid plant yr ardal!

Bu Siôn Tomos Owen, Bardd Plant Cymru, a thri bardd o fro y Garreg Las, Elain Roberts, Steffan Phillips a Mari Mathias yn cynnal gweithdai gyda phlant cynradd ardaloedd yr Eisteddfod dros y gwanwyn. Pwrpas y gweithdai oedd ennyn hyder a mwynhad y plant wrth greu gyda geiriau. Hefyd ennyn balchder yn yr iaith Gymraeg a’u broydd gan ddathlu beth sy’n eu gwneud yn arbennig.

Cynhaliodd pob bardd chwe gweithdy yr un, gan gyd-greu cerddi gyda phlant yr ysgolion. Daethpwyd â’r 24 cerdd ynghyd mewn pamffled lliwgar a hardd ac mae pob plentyn wedi derbyn copi gyda’u henw wedi ei argraffu ynddo. Dyluniwyd y pamffled hardd gan Ela Mars.

A beth oedd barn y plant? Cyn dechrau un o’r gweithdy, dywedodd un disgybl, “Fi ddim lico neud poems” ond erbyn y diwedd “Fi wedi joio neud poem hyn!”. Mewn ysgol arall, dyma rai pethau a glywsom o’r bore: “Dwi ishe bod yn fardd pan fyddai’n henach”, “Na beth we joio mas draw!” a “Ma barddoni yn cwl ondiwe bois!”.

Bydd digwyddiad hwyliog yn y Babell Lên ar fore Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod (10:30am, 1 Awst) i ddathlu agoriad yr ŵyl ac i gyflwyno’r cerddi hyn ar lwyfan. Croeso cynnes i bawb!

Diolch yn fawr iawn i Lywodraeth Cymru am nawdd i gynnal y prosiect. Diolch hefyd i Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac i Swyddogion Datblygu’r Gymraeg yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion am eu cefnogaeth wrth gynnal y prosiect arbennig hwn.

Bydd nifer cyfyngedig o’r pamffled ar gael am ddim yn Eisteddfod y Garreg Las – cyntaf i’r felin!