Children’s Laureate Wales yn annog pobl ifanc i ail-ddarganfod hwyl llyfrgelloedd

Arweiniodd Children’s Laureate Wales, Connor Allen wythnos o weithdai ledled Ceredigion er mwyn annog disgyblion i ail-ddarganfod ac ail-gysylltu gyda’u llyfrgelloedd lleol. Mae’r Children’s Laureate Wales yn rôl lysgenhadol genedlaethol a gaiff ei gwobrwyo pob dwy flynedd i awdur o Gymru sydd yn angherddol dros sicrhau fod mwy o blant a phobl ifanc yn darganfod gwefr a grym llenyddiaeth.
Yn ystod y gweithdai, anogodd Connor y disgyblion i grwydro o gwmpas, dewis eu hoff lyfrau, ysgrifennu cerddi mewn ymateb i’w gerdd Knock Knock, a dychmygu sut y gallent greu dyfodol gwell yn eu cymuned. Y gweithdai hyn oedd y digwyddiadau cyntaf i gael eu cynnal mewn llyfrgelloedd ers bron i ddwy flynedd oherwydd pandemig COVID-19.
Meddai Delyth Huws, o Wasanaeth Llyfrgelloedd Ceredigion:
“Roedd o mor braf cael cynnal gweithgaredd yn y llyfrgelloedd unwaith eto a dyma oedd y dechrau perffaith!”
Mae sicrhau bod disgyblion Blwyddyn 7 yn parhau i ymgysylltu â’i llyfrgelloedd yn un o brif nodau llyfrgelloedd Ceredigion yn ogystal ag amlygu’r budd mae darllen ac ysgrifennu yn cael ar lesiant.

Mae’r gweithdai hyn yn rhan o ymgyrch Connor i rymuso ac ysbrydoli plant Cymru drwy lenyddiaeth, a mi fydd yn parhau i ymweld ag ysgolion a llyfrgelloedd dros y flwyddyn i ddod.
Cewch ragor o wybodaeth am Connor a phrosiect Children’s Laureate Wales yma.
Os oes gennych chi syniadau prosiectau neu gydweithio, cysylltwch ar childrenslaureate@literaturewales.org neu 029 2047 2266.