Cwrs barddoniaeth deuol cyntaf o’i fath yn cysylltu Cymru a’r Alban ar draws ieithoedd a thirweddau

Y bartneriaeth hon yw’r gyntaf o’i math, ac mae’n cynnig dwy breswylfa greadigol gysylltiedig. Un yn Nhŷ Newydd ym mis Tachwedd 2026 ac yr ail yn Moniack Mhor ym mis Mai 2027. Wedi eu gwreiddio yng nghyd-destunau diwylliannol ac amgylcheddol gogledd-orllewin Cymru ac Ucheldiroedd yr Alban, bydd y cyrsiau’n archwilio themâu megis lle, perthyn a chyfrifoldeb cymdeithasol beirdd trwy uno traddodiadau barddonol y Gymraeg, Gaeleg Albaneg, Saesneg ac Arabeg.
Bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i fyfyrio ar rôl beirdd mewn cymdeithas gyfoes. O goffáu profiadau cenedlaethol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, mae’r cwrs yn gosod barddoniaeth fel arfer creadigol yn ogystal â chrefft sydd â chyfrifoldeb cymdeithasol: modd o ddogfennu profiad, dylanwadu sgyrsiau cenedlaethol a dychmygu newid. Yn ogystal, byddant yn cael eu gwahodd i ymateb yn uniongyrchol i’w hamgylchedd, gyda’r ddwy ganolfan wedi eu lleoli o fewn tirweddau cyferbyniol ond ag elfennau tebyg. Bydd teithiau lleol yn y ddau leoliad yn dyfnhau cysylltiad y cyfranogwyr â lle ymhellach ac yn darparu ysgogiad creadigol ychwanegol.
Trwy weithdai a thrafodaeth, bydd cyfranogwyr yn archwilio ysgrifennu ar draws ffiniau ac ieithoedd, gyda sylw arbennig i’r posibiliadau creadigol o weithio mewn ac ochr yn ochr ag ieithoedd lleiafrifol. Bydd cyfleoedd ar gyfer adborth manwl, adeiladol mewn amgylchedd cefnogol, ochr yn ochr â sesiynau beirdd gwadd fydd yn cynnwys darlleniadau a sgyrsiau.
Gall cyfranogwyr ddewis mynychu un o’r preswylfeydd, neu brofi’r daith ar draws cenhedloedd trwy gymryd rhan yn y ddau. Mae ysgoloriaethau ar gael ar gyfer y ddwy breswylfa, gan helpu i sicrhau y gall beirdd o bob cefndir gymryd rhan yn y cyrsiau hyn.
Meddai Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru a Rachel Humphries, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Moniack Mhor, am y bartneriaeth,
“Mae Teithio Rhwng Lleisiau yn dod ag awduron, ieithoedd a thirweddau â’i gilydd mewn sgwrs greadigol a rennir ar draws Cymru a’r Alban. Fel canolfannau ysgrifennu cenedlaethol, mae Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a Moniack Mhor wedi ymrwymo i gefnogi gwaith sydd wedi’i wreiddio mewn lle wrth feithrin deialog ar draws ffiniau. Drwy gysylltu traddodiadau Cymraeg, Gaeleg a thraddodiadau ieithyddol eraill, mae’r bartneriaeth hon yn cynnig lle i archwilio hunaniaeth, cymuned a rôl barddoniaeth wrth lunio sut rydym yn deall ac yn ymateb i’r byd heddiw.”
Mae’r bartneriaeth hon rhwng Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a Moniack Mhor yn nodi moment arwyddocaol yn y berthynas ddiwylliannol rhwng Cymru a’r Alban. Drwy ddod â dwy ganolfan ysgrifennu genedlaethol ynghyd sy’n rhannu ymrwymiadau i iaith, lle a threftadaeth lenyddol, mae Teithio Rhwng Lleisiau yn sefydlu model newydd ar gyfer cydweithio ar draws sectorau creadigol y DU, un sydd nid yn unig yn meithrin cyfnewid artistig, ond yn cryfhau cysylltiadau rhwng cymunedau, yn cynnal ieithoedd lleiafrifol ac yn tynnu sylw at rôl hanfodol llenyddiaeth mewn bywyd cyhoeddus a diwylliannol.
Archebu a Gwybodaeth Bellach
Mae lleoedd yn gyfyngedig, ac argymhellir archebu’n gynnar. Am fanylion llawn y cwrs ac i gadw lle, ewch i wefannau Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd a Moniack Mhor.
Ynglŷn â’r Sefydliadau
Tŷ Newydd yw Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru. Wedi’i sefydlu ym 1990, fe’i rhedir gan Lenyddiaeth Cymru, yr elusen genedlaethol ar gyfer datblygu llenyddiaeth yng Nghymru.
Moniack Mhor yw Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol yr Alban. Mae wedi’i lleoli yn Ucheldiroedd yr Alban, ac mae’n adnabyddus yn rhyngwladol am ei chyrsiau preswyl trochol a’i hymrwymiad i feithrin awduron ym mhob cam o’u datblygiad.