Cydweithio gyda Folding Rock i ddathlu 5 mlynedd o Cynrychioli Cymru
Mae Llenyddiaeth Cymru a Folding Rock yn hynod o falch i gydweithio ar rifyn arbennig o’r cylchgrawn llenyddol Cymreig, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar 12 Tachwedd 2026 er mwyn dathlu pum mlynedd o Cynrychioli Cymru, un o raglenni datblygu awduron mwyaf blaenllaw Llenyddiaeth Cymru.
Bob blwyddyn, gwahoddir awduron sy’n teimlo eu bod wedi’u tangynrychioli yn y sector llenyddiaeth yng Nghymru i ymgeisio am le yng ngharfan Cynrychioli Cymru. Mae’r rhaglen yn cynnwys ysgoloriaeth ariannol, cyfres o sesiynau mentora un-wrth-un, gweithdai a sgyrsiau wyneb-yn- wyneb ac arlein, yn ogystal â chyfleoedd i rwydweithio, datblygu cysylltiadau newydd a meithrin perthynas gydag awduron eraill, yn ogystal â’r sector llenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt.
Yn dilyn y rhaglen 12 mis, mae Llenyddiaeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r garfan a gyda phartneriaid eraill i sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth a’r cyngor sydd ei angen arnynt i ddilyn eu huchelgeisiau llenyddol hirdymor.
Dan y teitl Treigl, bydd y rhifyn cydweithredol a dwyieithog yma o Folding Rock yn arddangos gwaith gan rai o gyn-gyfranogwyr Cynrychioli Cymru, gan gynnwys Paz Koloman Kaiba, Emily Burnett, Natasha Gauthier, Marged Elen Wiliam, Taz Rahman, Hanan Issa, Jon Doyle, Marvin Thompson, Anthony Shapland, Sioned Erin Hughes, Ed Garland, Manon Steffan Ros, Lesley James, Rhiannon Fielder-Hobbs, Steffan Wilson-Jones a Ben Huxley.
Mae Folding Rock yn gylchgrawn sydd yn cyhoeddi ffuglen fer, ffeithiol greadigol a beirniadaeth lenyddol Saesneg o Gymru a thu hwnt. Ar gyfer y rhifyn arbennig hwn, mae’r golygydd cynorthwyol, Alys Conran, a chylchgrawn Poetry Wales hefyd wedi cydweithio â’r prosiect, gan alluogi i waith llenyddol yn y Gymraeg a barddoniaeth gael eu cynnwys yn y rhifyn am y tro cyntaf, gan arddangos rhychwant anhygoel gwaith cyn-gyfranogwyr Cynrychioli Cymru.
Caiff Treigl ei ddathlu mewn digwyddiadau lansio ym Mangor a Chaerdydd yn ystod y mis Tachwedd ynghyd â digwyddiad arlein, archebwch eich lle trwy ddilyn y dolenni isod:
Tramshed, Caerdydd 6 Tachwedd 7.30-9.00pm
Pontio, Bangor 13 Tachwedd 7.30-8.30pm
Digwyddiad Ar-lein 18 Tachwedd 6.30-7.30pm
Er mwyn archebu eich copi o flaen llaw, dilynwch y linc yma: Folding Rock 006: Treigl – Folding Rock