Dewislen
English
Cysylltwch

Cyfnod Coronafeirws trwy lygaid plant Cymru – Cerdd newydd gan Bardd Plant Cymru

Cyhoeddwyd Maw 5 Mai 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyfnod Coronafeirws trwy lygaid plant Cymru – Cerdd newydd gan Bardd Plant Cymru
Y chwerthin, y dagrau, y dadlau a’r cariad – sut bydd plant Cymru yn cofio cyfnod y Coronafeirws yn y blynyddoedd i ddod? Yn ôl Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru, y pethau bychain fydd yn aros gyda nhw, sef gwneud gwaith ysgol mewn pyjamas a dysgu Nain sut i snapchatio!

Mae Gruffudd wedi ysgrifennu cerdd arbennig o’r enw ‘Hyn’, sydd yn adlewyrchu teimladau plant a phobl ifanc a sut, efallai, byddant yn cofio’r adeg rhyfedd yma. Mae Griff Lynch o Kreu Media wedi cynhyrchu ffilm fer gyda phlant yn darllen rhannau o’r gerdd. Caiff y gerdd fideo ‘Hyn’ ei darlledu heno ar S4C am 6.58pm.

Meddai Gruffudd:

“Roeddwn i ishio creu cerdd am y cyfnod yma oedd yn adlewyrchiad gonest o brofiadau pobol. Roeddwn i hefyd ishio cynnwys tipyn o hiwmor yn y gerdd ond heb or-ramantu’r profiad chwaith. Yr hyn sydd yn rhyfedd am y lockdown ydi er bod pawb ar wahân rydan ni gyd yn mynd drwy brofiadau go debyg. O hynny y daeth y syniad o greu cerdd ar ffurf rhestr. Dwi’n gobeithio y bydd pawb yn gweld elfennau o’u profiadau nhw yn cael ei adlewyrchu yn y gerdd.”

Mae Comisiynydd Rhaglenni Plant S4C Sioned Wyn Roberts yn esbonio’r syniad tu ôl i gomisiynu ‘Hyn’:

“Mae’n rhyfedd beth sy’n digwydd ac efallai bod yn gyfnod brawychus i blant felly roeddwn ni’n reit awyddus bod y gerdd yn llawn hwyl ac yn obeithiol. Mae’n adlewyrchu bywyd pob dydd ac yn cynnig neges o obaith gan bwysleisio bydd y cyfnod yma yn dod i ben.”

Mae Bardd Plant Cymru yn rôl lysgenhadol sydd yn cyflwyno llenyddiaeth ac ysgrifennu creadigol i blant mewn modd bywiog, deinamig a llawn hwyl; hyrwyddo hawl plant i leisio’u barn; ac yn rhoi cyfle hefyd i awdur gynrychioli Cymru ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol.

Ers diwedd mis Mawrth, mae Gruffudd wedi bod yn gosod sialensau ysgrifennu wythnosol i blant Cymru. Mae’r sialensau wedi amrywio o ysgrifennu cerddi am ‘aliens’, i gerddi am yr olygfa allan o ffenest yn y tŷ.  Mae’r sialensau’n cael eu gosod bob bore Llun ar gyfrif Twitter Bardd Plant a gwefan Llenyddiaeth Cymru, ac maent yn ffordd i Gruffudd barhau i ymgysylltu â ac ysbrydoli plant Cymru drwy lenyddiaeth yn ystod y cyfnod heriol hwn. Gallwch ddarllen rhagor am gynllun Bardd Plant Cymru yma.

Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:

“Rwy’n falch iawn y bydd ‘Hyn’, cerdd gomisiwn newydd gan Gruffudd Owen, Bardd Plant Cymru, yn cael ei darlledu am y tro cyntaf ar S4C heno. Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae barddoniaeth yn ffordd i ddod â phobl at ei gilydd a chreu cysylltiadau, felly rydym yn ddiolchgar i S4C, pob un o bartneriaid Cynllun Bardd Plant Cymru – heb anghofio’r plant arbennig yn y fideo – am ddod â’r gerdd hon yn fyw.”

Meddai Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol:

“Mae prosiect Bardd Plant Cymru yn cael ei gyd-ariannu gan Is-adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru, a dwi’n croesawu cyhoeddi y gerdd hon gan Gruffudd Owen. Mae’n gerdd hyfryd sydd yn llawn hwyl, yn disgrifio bywyd bob dydd yn ystod y cyfnod gwahanol yma, a hefyd yn dweud yn eitha syml y daw eto haul ar fryn. Mae barddoniaeth yn ddull gwych o fynegi teimladau ar adeg fel hwn ac rwy’n gobeithio bydd yn ysbrydoli plant i ysgrifennu cerddi eu hunan.”

 

Hyn
Dydd Mawrth 5 Mai 6.58, S4C
Isdeitlau Saesneg
Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Kreu
ar gyfer S4C