Cyhoeddi Beirniaid a Lleoliad Seremoni Llyfr y Flwyddyn 2026

Y Panel Beirniadu 2026
Ar y panel Cymraeg eleni mae’r Prifardd, awdur, a chyn-Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn; Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol y Gymraeg , ei Threftadaeth a’i Diwylliant ym Mhrifysgol Abertawe a Chyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Yr Athro Gwenno Ffrancon; yr awdur, golygydd a Golygydd Gyfarwyddwr O’r Pedwar Gwynt, Sioned Puw Rowlands; a’r cyflwynydd teledu ar raglen Cyw, sydd hefyd yn ymarferydd drama, Dafydd Lennon.
Mae’r panel Saesneg hefyd yn cynnwys pedwar unigolyn amlwg o’r byd llenyddol a diwylliannol: y bardd, beirniad llenyddol ac Athro Barddoniaeth ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor, Zoë Skoulding; yr awdur ac enillydd prif Wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2021, Catrin Kean; y newyddiadurwr arobryn ac ymchwilydd, Shirish Kulkarni; a Goruchwyliwr Llyfrgell Maesteg a enillodd le gwerthfawr ar Restr CILIP 125, Julie Golden.
“Bu’n fwynhad pur darllen y gweithiau ffuglen Cymraeg a gyhoeddwyd eleni a phwyso a mesur yr amrywiaeth eang o gyfrolau a ddaeth i law. Gyda’r byd yn gwallgofi bron yn ddyddiol, roedd hi’n hyfryd cael dianc i fydoedd cyfarwydd ac anghyfarwydd a mwynhau doniau a ffrwyth dychymyg yr awduron.” – Gwenno Ffrancon
Cafodd enwau’r beirniaid eu datgelu ar Y Clwb Darllen, BBC Radio Cymru a BBC Sounds ddydd Sul 1 Mawrth 2026, ac fe fydd ail-ddarllediad rhwng 18.00-19.00pm ddydd Llun 2 Mawrth.
Mae Llyfr y Flwyddyn yn dathlu’r cyfoeth o lenyddiaeth Gymreig a gynhyrchir yn flynyddol, a hynny yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’n rhan annatod o waith Llenyddiaeth Cymru ac yn cyfrannu at ein strategaeth o ddathlu a chynrychioli diwylliant, awduron a threftadaeth lenyddol Cymru. Trwy’r wobr hon, rydym yn rhoi llwyfan i leisiau newydd a phrofiadol, gan ddangos cryfder ac amrywiaeth llenyddiaeth gyfoes Cymru mewn pedwar categori: Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol, a Phlant a Phobl Ifanc.
Rydym yn falch o gyhoeddi ein paneli rhagorol o feirniaid, sy’n dod ag arbenigedd eang o feysydd llenyddol a diwylliannol Cymru. Gyda’r wythnosau yn gwibio heibio, maent eisoes wedi bod yn brysur yn darllen, dewis a dethol.
Seremoni Wobrwyo 2026
Bydd Seremoni Wobrwyo eleni yn dychwelyd i’r gogledd ac yn cael ei chynnal yn Galeri Caernarfon nos Iau 9 Gorffennaf 2026. Edrychwn ymlaen yn fawr at ddychwelyd i Gaernarfon i ddathlu cyfraniad a thalentau llenorion Cymru, a darganfod pa gyfrolau fydd yn hawlio teitl Llyfr y Flwyddyn 2026 yn Gymraeg a Saesneg.
Bydd tocynnau ar gael i’r cyhoedd ar ôl cyhoeddi’r Rhestr Fer ym mis Mai, gyda manylion llawn ar ein gwefan.
Partneriaid a Phleidlais y Bobl
Am y drydedd flwyddyn yn olynol, rydym yn falch o gyhoeddi mai Ysgol y Gymraeg ac Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yw noddwyr ein prif wobrau ar gyfer 2026. Rydym hefyd yn parhau i gydweithio gyda BBC Cymru Wales i ddatgelu’r Rhestrau Byrion ym mis Mai ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.
Mae ein noddwyr a’n cefnogwyr categori eleni yn cynnwys Cyfrifwyr HSJ, Stori Cymru, Cronfa Elw Park-Jones ac Ymddiriedolaeth Rhys Davies.
Yn dilyn cyhoeddi’r rhestri byrion fis Mai bydd cyfle i ddarllenwyr leisio eu barn unwaith eto eleni drwy fwrw pleidlais yng ngwobrau Barn y Bobl / People’s Choice a gynhelir gan ein partneriaid digidol Golwg360 a Nation.Cymru.
Dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol @llyfr_y_flwyddyn_wboty a @llencymru_litwales a thudalen brosiect Llyfr y Flwyddyn am y newyddion diweddaraf.