Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi Enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn: Pryd a lle?

Cyhoeddwyd Iau 30 Gor 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddi Enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn: Pryd a lle?

Caiff enillwyr y categorïau, enillydd Gwobr Barn y Bobl a’r Prif Enillydd eu cyhoeddi mewn cyfres o raglenni ar BBC Radio Cymru fel rhan o Ŵyl AmGen BBC Radio Cymru, Radio Cymru 2 a BBC Cymru Fyw:

Nos Iau, 30 Gorffennaf rhwng 7.00 – 7.30 pm: Cyhoeddi enillwyr categori – Barddoniaeth a Ffeithiol Greadigol

Dydd Gwener, 31 Gorffennaf rhwng 12.30 – 1.00 pm: Cyhoeddi enillwyr categori – Plant a Phobl Ifanc a Ffuglen

Dydd Sadwrn, 1 Awst rhwng 12.30 – 1.00 pm: Cyhoeddi enillydd Gwobr Barn y Bobl a’r Prif Enillydd

Bydd rhaglen arbennig yn cael ei darlledu ar BBC Radio Cymru rhwng 1.00 – 2.00 pm ar ddydd Sul, 2 Awst yn edrych yn ôl dros y tair rhaglen flaenorol ac yn trafod holl gyfrolau’r wobr eleni.

 

Caiff yr holl enillwyr Saesneg eu cyhoeddi nos Wener, 31 Gorffennaf rhwng 6.00 – 7.00 pm mewn darllediad arbennig o’r Arts Show ar BBC Radio Wales.