Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi enillydd Gwobrau’r New Welsh Review 2021: Gwobr Rheidol ar gyfer Rhyddiaith gyda Thema neu Leoliad Cymreig

Cyhoeddwyd Maw 1 Meh 2021 - Gan New Welsh Review
Cyhoeddi enillydd Gwobrau’r New Welsh Review 2021: Gwobr Rheidol ar gyfer Rhyddiaith gyda Thema neu Leoliad Cymreig
Mae’r New Welsh Review wedi cyhoeddi enillydd Gwobrau’r New Welsh Review 2021: Gwobr Rheidol ar gyfer Rhyddiaith gyda Thema neu Leoliad Cymreig, a wnaed yn bosib diolch i gefnogaeth hael y tanysgrifiwr hirdymor, RS Powell.

Derbyniodd Jasmine Donahaye a’i chofiant Reading the Signs y wobr mewn seremoni ar-lein a ffrydiwyd ar sianel Youtube y New Welsh Review. Mae Jasmine, sydd o Ledrod, yn ennill blaenswm o £1,000 yn erbyn cytundeb cyhoeddi cyffredinol â Rarebyte, beirniadaeth gadarnhaol gan yr asiant llenyddol blaenllaw Cathryn Summerhayes o Curtis Brown, a thanysgrifiad blwyddyn o hyd i’r New Welsh Review.

Mae Reading the Signs yn gasgliad o bum traethawd rhyng-gysylltiedig sy’n archwilio’r cyfyngiadau a’r ffiniau a roddir ar brofiad menywod o’r byd naturiol. Wedi’i leoli ym milltir sgwâr yr awdur yng nghefn gwlad Ceredigion, mae’r darn hefyd yn cynnwys tirweddau yn yr Alban a Lloegr. Mae’r traethodau’n cyffwrdd â gwaddol parhaol trais domestig, prinder hunaniaeth benywaidd mewn hanes naturiol, disgwyliadau cymdeithasol a llenyddol sy’n cyfarwyddo ac yn cyfyngu ar sut y gall menywod brofi diffeithwch.

Ymhlith cyhoeddiadau Jasmine Donahaye mae naratif ffeithiol, ffuglen, barddoniaeth a beirniadaeth ddiwylliannol. Enillodd ei chofiant Losing Israel (2015) gategori ffeithiol Llyfr y Flwyddyn, a cafodd ei stori ‘Theft‘ ei rhoi ar restr fer Gwobr Goffa V.S. Pritchett y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol yn 2016. Mae ei llyfrau’n cynnwys The Greatest Need (2015): Whose People? Wales, Israel, Palestine (2012); Self-Portrait as Ruth (2009), a Misappropriations (2006), Mae ei gwaith wedi ymddangos mewn cylchgronau llenyddol, ac yn y New York Times a’r Guardian. Cafodd ei hethol fel Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2017.

Daeth João Morais o Gaerdydd yn ail gyda Festival of the Ghost, nofel drosedd wedi ei leoli yng Nghaerdydd. Mae’n nofel ddoniol sydd â phlot tynn, a synnwyr anhygoel o fywyd, marwolaeth a gofod ddinesig. Mae’r awdur yn archwilio crefydd, trais, OCD, galar a defod. Mae João yn ennill arhosiad pedair noson yn Encil Awduron Nant draw yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Daeth Jack Harris o Lundain yn drydydd gyda The Rebeccas ac mae’n ennill arhosiad dwy noson yn Llyfrgell Gladstone. Bydd y ddau ohonynt hefyd yn derbyn blwyddyn o hyd i’r New Welsh Review, a bydd rhan o’u gwaith buddugol yn ymddangos yn rhifyn Hydref 2021 o’r New Welsh Reader.

Mae gwobrau 2021 wedi eu noddi gan Richard Powell, ac yn cael eu cynnal ar y cyd â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd Llenyddiaeth Cymru, Llyfrgell Gladstone, a Curtis Brown. Caiff y New Welsh Review ei gefnogi gan nawdd craidd Cyngor Llyfrau Cymru, ac fe gaiff ei gynnal gan Brifysgol Aberystwyth.

Ewch draw i wefan y New Welsh Review am ragor o fanylion.