Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi enwau Mentoriaid Cynrychioli Cymru 2025-26

Cyhoeddwyd Mer 17 Medi 2025 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddi enwau Mentoriaid Cynrychioli Cymru 2025-26
Mae’n bleser gennym gyhoeddi enwau’r 14 awdur blaenllaw a fydd yn mentora awduron rhaglen gyfredol Cynrychioli Cymru. 

Mae Cynrychioli Cymru yn un o brif raglenni Llenyddiaeth Cymru, ac fe’i ariennir gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Wedi’i datblygu i wella cynrychiolaeth o fewn y sector, nod y rhaglen yw helpu trawsnewid diwylliant llenyddol y wlad yn un sy’n wirioneddol adlewyrchu cymunedau amrywiol Cymru ac amlygu doniau Cymreig amrywiol fydd yn mynd ymlaen i gael cydnabyddiaeth ledled y DU a thu hwnt.  

Caiff pob awdur ar raglen Cynrychioli Cymru eu paru gyda Mentor o’u dewis mewn ymgynghoriad â Llenyddiaeth Cymru. Yn ystod y flwyddyn, bydd y mentoriaid yn cynnig cefnogaeth olygyddol yn ogystal â chyngor arbenigol ar eu gyrfa fel awdur, wrth iddynt weithio tuag at gyflawni eu nodau creadigol a phroffesiynol.  

Y Mentoriaid 

Mae rhai o awduron mwyaf cyffrous a llwyddiannus diwylliant llenyddol Cymru a thu hwnt yn mentora eleni. Y mentoriaid yw Jannat Ahmed, Duke Al, Zoë Brigley, Jan Carson, Alys Conran, Fflur Dafydd, Jonathan Edwards, Bethan Gwanas, Vanessa Kisuule, Kirsty Logan, Llwyd Owen, Taz Rahman, Manon Steffan Ros a Rachel Trezise.  

Maent yn arbenigo ar ystod eang o genres, ac yn meddu ar arbenigedd proffesiynol. Maent wedi eu lleoli yng Nghymru a thu hwnt. At ei gilydd, mae eu gwaith wedi eu gyhoeddi’n fyd-eang, ac wedi eu cynnwys mewn gwobrau gan gynnwys: Gwobr Llyfr y Flwyddyn; Gwobr Tir na n-Og, Y Fedal Ryddiaith, Gwobr Goffa Daniel Owen, Gwobr Eric Gregory, Gwobr Barddoniaeth Costa, Gwobr y People’s Choice Award yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn, Tlws Coffa Mary Vaughan Jones, Gwobr Goffa T Llew Jones, Gwobr Dylan Thomas, Gwobr Troubadour, Gwobr Scott, Cymrydoriaeth Gavin Wallace, Gwobr An Post Irish Novel of the Year, Gwobr Kerry Group Novel of the Year a Gwobr Polari First Book Prize ymhlith eraill.  

Bydd eu profiad, llwyddiant a’u creadigrwydd yn cael dylanwad bositif ar ddatblygiad yr awduron maent yn eu mentora, ac o ganlyniad, ar y sector llenyddol ehangach. 

Dywedodd Fflur Dafydd un o fentoriaid y rhaglen: 

“Mae’n wych i allu rhannu profiad sgwennu gyda’r genhedlaeth nesaf a gweld gwaith newydd yn esblygu o flaen eich llygaid – mae sgwennu yn gallu bod yn brofiad ynysig felly mae partneriaeth mentor ac awdur yn aml yn hwyluso’r broses ac yn esgor ar gymaint o sgyrsiau diddorol am y grefft ei hun.”

Yn y fideo isod, mae awduron rhaglen 2024-2025, yn rhannu eu profiadau ynglŷn â derbyn mentora fel rhan o raglen Cynrychioli Cymru:

Gallwch ymweld â thudalen Cynrychioli Cymru i ddarganfod rhagor am yr awduron sy’n rhan o’r rhaglen eleni a’u hamcanion, a darllen rhagor am bob mentor.  

Bydd rhaglen Cynrychioli Cymru 2026-27 yn agor ar gyfer ceisiadau fis Hydref 2025.