Cyhoeddi Partneriaeth Llenyddiaeth Cymru a Folding Rock

Mae Llenyddiaeth Cymru a Folding Rock yn hynod falch o ddod at ei gilydd i gydweithio ar chweched rhifyn cylchgrawn llenyddol mwyaf newydd Cymru, er mwyn dathlu pum mlynedd o Gynrychioli Cymru.
Cynrychioli Cymru yw un o brif raglenni datblygu awduron Llenyddiaeth Cymru. Bob blwyddyn gwahoddir awduron sy’n teimlo nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol yn y sector llenyddiaeth yng Nghymru i ymgeisio am le yn y rhaglen. Mae’r rhaglen yn cynnwys gwobr ariannol, mentora un-wrth-un, gweithdai a sgyrsiau wyneb-yn-wyneb ac arlein, ynghyd â chyfleoedd i rwydweithio, datblygu cysylltiadau newydd a meithrin perthynas gydag awduron eraill, yn ogystal â’r sector llenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt.
Wedi i’r cynllun 12 mis ddirwyn i ben, bydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r garfan a gyda phartneriaid eraill i sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth a’r cyngor sydd ei angen arnynt i gyflawni eu goliau llenyddol hirdymor.
Ers ei sefydlu yn 2020, mae 68 o awduron wedi cymryd rhan yn rhaglen Cynrychioli Cymru, ac aelodau o garfanau blaenorol bellach wedi sefydlu gyrfaoedd disglair i’w hunain.
Ar gyfer y rhifyn arbennig hwn, bydd pob un o’r 68 awdur sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen yn derbyn gwahoddiad i anfon eu gwaith gorau, boed yn ffuglen, ffeithiol greadigol, neu farddoniaeth, yn y Gymraeg neu Saesneg – ar unrhyw thema neu bwnc, i’w ystyried ar gyfer cyhoeddi. Rydym yn ddiolchgar i Poetry Wales am eu cydweithrediad, fel gellir cynnwys barddoniaeth, mewn un rhifyn yn unig, yn y detholiad pwysig hwn.
Dywedodd Alys Conran, Golygydd Cyfrannol Folding Rock, ac un o fentoriaid Cynrychioli Cymru: “Mae Cynrychioli Cymru wedi atgyfnerthu cymaint o leisiau newydd syfrdanol. Bydd yn rhyfeddol gweld pŵer y cydweithrediad hwn gyda Folding Rock, wrth gynnig y lleisiau yma i ddarllenwyr, mewn chweched rhifyn godidog o’r cylchgrawn.”
Dywedodd Robert Harries, Golygydd Ffuglen Folding Rock: “Mae pawb yn Folding Rock wrth ein boddau yn cyhoeddi’r bartneriaeth hon â Llenyddiaeth Cymru a’u rhaglen Cynrychioli Cymru. Yn ein blwyddyn gyntaf, rydym eisoes wedi elwa’n aruthrol o’r fenter drwy gyhoeddi gwaith rhai o’r awduron sydd wedi eu cefnogi trwy’r rhaglen; o Anthony Shapland a Durre Shahwar yn ein rhifyn cyntaf i Jade E. Bradford a Rosy Adams yn ein rhifyn diweddaraf. Mae Cynrychioli Cymru yn amlwg yn ffrwd ragorol o ddarganfod a datblygu talent, ac rydym mor falch bod Folding Rock yn gallu bod yn rhan o’r dathliad hwn. Hoffem hefyd estyn ein diolch i Zoë Brigley, Poetry Wales, ac Alys Conran, golygydd cyfrannol Folding Rock, am roi eu doethineb a’u harbenigedd inni. Mae eu cyfraniad yn ein galluogi i gyhoeddi barddoniaeth a gwaith Cymraeg am y tro cyntaf yn hanes y cylchgrawn. Allwn ni ddim aros i ddechrau arni!”
Ceir digwyddiadau eraill yn ystod 2026 er mwyn dathlu effaith a llwyddiant Cynrychioli Cymru.
Ariennir Cynrychioli Cymru gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru.