Cyhoeddi Rhestr Fer Gwobrau’r New Welsh Writing Awards 2021
Mae’r New Welsh Review wedi cyhoeddi’r Rhestr Fer a’r ceisiadau sydd wedi derbyn clod uchel yng Ngwobrau’r New Welsh Writing Awards 2021: Gwobr Rheidol ar gyfer Rhyddiaith gyda Thema neu Leoliad Cymreig
Cafwyd mwy o geisiadau nag erioed eleni i’w Gwobr Rheidol ar gyfer Rhyddiaith gyda Thema neu Leoliad Cymreig, cyfle datblygu awduron a wnaed yn bosib diolch i gefnogaeth hael y tanysgrifiwr hirdymor, Richard Powell. Mae’r rhestr yn gydbwysedd o waith ffuglen a ffeithiol greadigol, a menywon yw’r mwyafrif sydd weci cyrraedd y rhestrau unwaith eto eleni.
Am y tro cyntaf, cyflwynwyd categori ar gyfer awduron rhwng 18-25 oed, a rhoddwyd clod uchel i Penny Lewis sydd yn 18 mlwydd oed ac i Kathrynn Tann sydd yn 24 mlwydd oed.
Yn ogystal â gwobr ariannol o £1,000 fel blaendal ar gyfer cytundeb e-gyhoeddi, bydd yr awdur buddugol yn derbyn beirniadaeth gadarnhaol gan yr asiant llenyddol arobryn Cathryn Summerhayes o Curtis Brown Literary Agency Llundain. Yr ail wobr yw arhosiad pedair noson yn Encil Awduron Nant, bwthyn encil ar safle Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, a gaiff ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru. Y trydedd wobr yw arhosiad dwy noson yn Llyfrgell Gladstone, Y Fflint.
Bydd enwau’r awduron buddugol yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig arlein am 6.00 pm ar 28 Mai 2021.
Mae’r seremoni am ddim ac yn agored i bawb, a gellir cofrestru yma.
Mae’n fraint gan y New Welsh Review gyhoeddi’r Rhestr Fer ac enwau’r rheiny sydd wedi derbyn clod uchel eleni:
Gwobr Rheidol ar gyfer Rhyddiaith gyda Thema neu Leoliad Cymreig – Rhestr Fer yn nhrefn y wyddor
Jasmine Donahaye (Lledrod) Reading the Signs
Jack Harris (Llundain/ Llanfair-Ym-Muallt) The Rebeccas
João Morais (Caerdydd) Festival of the Ghost
Gwobr Rheidol ar gyfer Rhyddiaith gyda Thema neu Leoliad Cymreig – Clod Uchel yn nhrefn y wyddor
Elizabeth Griffiths (Swydd Lincoln) Landmark
Sybilla Harvey (Brooklyn, UDA) The Kaiser and the River
Rhiannon Hooson (Llanandras) Archipelago
Penny Lewis (Aberarth) The Lovespoons
Kathryn Tann (Huddersfield/Pen y Bont) Return to Water