Cyngor Llyfrau Cymru yn cyhoeddi enillwyr Gwobrau Tir na n-Og 2026

Wedi’u sefydlu yn 1976, mae Gwobrau blynyddol Tir na n-Og yn dathlu’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Fe’u trefnir gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u noddi gan CILIP Cymru Wales. Mae 2026 yn nodi pen-blwydd y gwobrau yn 50 oed.
Am Gymro! gan Medi Jones-Jackson, darluniwyd gan Telor Gwyn (Y Lolfa)
Llyfr deniadol a llawn hwyl am 13 o ddynion ysbrydoledig o Gymru sy’n arbenigwyr yn eu meysydd penodol ac yn dod o bob rhan o Gymru.
Dywedodd Medi Jones-Jackson: “Anodd ydi cyfleu’r teimlad o ennill y wobr hon heb ddefnyddio’r gair ‘anrhydedd’. Fedra i ddim coelio’r peth! Diolchaf i’r panel, Y Lolfa a’r Cyngor Llyfrau am y gefnogaeth, ond i ddarllenwyr ifanc Cymru mae’r diolch mwyaf. Dwi wrth fy modd yn ymweld ag ysgolion ledled y wlad a gweld y disgyblion yn byrlymu wrth ddysgu ychydig o’n hanes ni fel cenedl, gan obeithio ’mod i wedi ysbrydoli’r Richard Burton neu’r Dafydd Iwan nesa!”
Gwen ac Arianrhod gan Lleucu Gwenllian, darluniwyd gan Lleucu Gwenllian (Gwasg Carreg Gwalch)
Dydi symud i ysgol newydd byth yn hawdd; mae’n anoddach fyth pan nad ydach chi’n ffitio i mewn. Nofel graffig am gyfeillgarwch, galar, a’r trafferthion o dyfu i fyny.
Dywedodd Lleucu Gwenllian: “Doeddwn i’n methu coelio fod Gwen ac Arianrhod wedi cael ei dewis i fod ar restr fer Tir na n-Og eleni, felly roedd darganfod bod y gyfrol wedi ennill yn deimlad swreal – mae ’na gymaint o awduron a darlunwyr dwi’n eu hedmygu wedi ennill y wobr, felly dwi jyst yn methu coelio’r peth! Roedd sgwennu a darlunio Gwen ac Arianrhod yn llafur cariad, ac yn broses wnaeth rili gwthio fy ngallu fel darlunydd, felly mae’n gymaint o anrhydedd fod y llyfr yn cael y fath gydnabyddiaeth.”
Y llyfrau eraill ar y rhestr fer ar gyfer y categoriau Cymraeg oedd:
Categori Cynradd:
Cyfri Defaid gan Enlli Lewis, darluniwyd gan Gareth Brown (Atebol)
Gerwyn Gwrthod a’r Llyfr Does Neb yn Cael ei Ddarllen gan Siôn Tomos Owen, darluniwyd gan Siôn Tomos Owen (Atebol)
Llyfr Sgrap Macs Sion gan Mari Lovgreen, darluniwyd gan Cai Tudur (Y Lolfa)
Categori Uwchradd:
Y Garthen gan Sioned Wyn Roberts (Atebol)
Anfarwol gan Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch)
Y Cae Ras gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
Hefyd, cyhoeddwyd enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr 2026 yn y categorïau Cymraeg. Mae hon yn wobr arbennig a ddewisir gan y plant a’r bobl ifanc a gymerodd ran yng Nghynllun Cysgodi Tir na n-Og.
Enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr (categori Cynradd) yw Llyfr Sgrap Macs Sion gan Mari Lovgreen, darluniwyd gan Cai Tudur (Y Lolfa)
Enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr (categori Uwchradd) yw Y Cae Ras gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
Enillwyr Categoriau Saesneg
Datgelwyd enillydd y categori Saesneg ar 8 Mai – The Wicked Lies of Habren Faire gan Anna Fiteni (Electric Monkey, Harper Collins).
Enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr yn y categori Saesneg yw 10 Fascinating Stories from Welsh History (that you’ll want to talk about) gan Siân Lewis a Charlotte Williams, darluniwyd gan Kyle Legall (Rily).
Blwyddyn o ddathlu
Bydd dathliadau pen-blwydd Gwobrau Tir na n-Og yn 50 oed yn parhau drwy gydol 2026, gyda blwyddyn lawn o weithgareddau wedi’u cynllunio i ddathlu hanner canrif o’r llyfrau gorau oll i blant a phobl ifanc.
- Gall darllenwyr o bob oed ymuno â Her Ddarllen Tir na n-Og a mwynhau cyfres o heriau hwyliog i’w tywys ar antur ddarllen i’w chofio. Gellir casglu taflenni’r her i blant, pobl ifanc ac oedolion o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol, neu eu lawrlwytho o Tir na n-Og Awards | Books Council of Wales. Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn hynod ddiolchgar i Wasg Gomer am eu cefnogaeth hael i argraffu’r heriau darllen.
- Ymunwch â Chyngor Llyfrau Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las ar gyfer dau ddigwyddiad arbennig yn y Babell Lên gyda gwesteion arbennig:
2 Awst, 10:30: Llyfrau plant a phobl ifanc – y bennod nesaf: Podlediad Sut i Ddarllen yn dathlu 50 mlynedd o Wobrau Tir na n-Og
Sesiwn gyda Francesca Sciarrillo, Elgan Rhys a Mared Fflur, Cadeirydd ein Panel Pobl Ifanc. Bydd y tri yn dathlu llenyddiaeth i blant a phobl ifanc ac yn edrych ymlaen at yr hanner canrif nesaf.
- 3 Awst, 12:00: Goreuon ein llên: Hanner canrif o Wobrau Tir na n-Og
Bydd Dr Siwan Rosser, Manon Steffan Ros, Caryl Lewis, a Huw a Luned Aaron yn hel atgofion am gyn-enillwyr Gwobrau Tir na n-Og, gan ddathlu gwaddol gwobrau hynaf Cymru i anrhydeddu llenyddiaeth i blant a phobl ifanc.