Dewislen
English
Cysylltwch

Cynrychioli Cymru: 14 o awduron yn cychwyn ar eu siwrnai datblygiad proffesiynol blwyddyn o hyd

Cyhoeddwyd Gwe 1 Mai 2026 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cynrychioli Cymru: 14 o awduron yn cychwyn ar eu siwrnai datblygiad proffesiynol blwyddyn o hyd
Yn dilyn galwad agored yn ystod Haf 2025, a ddenodd dros 150 o geisiadau, dewiswyd 12 o awduron gwych gan banel asesu annibynnol ar gyfer Cynrychioli Cymru 2026-2027. Mae’r genres maent yn ysgrifennu ynddynt yr un mor eang ac amrywiol â lle maent wedi eu lleoli: barddoniaeth lafar yng Nghaernarfon, ysgrifennu nofel yn Wrecsam, barddoniaeth o Ruthin a nofel graffig o Gaerdydd, i enwi ond ychydig.

Cyfarfu’r grŵp am y tro cyntaf yn ein Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol, Tŷ Newydd o 24 – 26 Ebrill 2026, ar gyfer dosbarth meistr aml-genre dan ofal y tiwtor Alys Conran. Dewch i nabod carfan Cynrychioli Cymru 2026-27.  

 

Rhaglen Cynrychioli Cymru: 

Mae Cynrychioli Cymru yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a chymorth ymarferol i awduron sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector llenyddiaeth yng Nghymru. Bydd pob un yn derbyn nawdd ariannol o £3,000 ynghyd â £300 ar gyfer treuliau, a fydd yn cefnogi’r awduron i fynychu digwyddiadau llenyddol, cyflwyno eu gwaith i gylchgronau a chyfnodolion a chael mynediad at ddeunyddiau fydd yn eu cynorthwyo i fwrw ‘mlaen gyda’u ymarfer ysgrifennu. Bydd pob awdur hefyd yn cael eu paru â mentor o’u dewis, fydd yn cynnig adborth ac arweiniad pwrpasol ar eu gwaith a’u gyrfa fel awdur.   

Yn ogystal, byddwn yn datblygu ac yn cyflwyno rhaglen amrywiol ac addysgiadol o weithdai a sgyrsiau, ystafelloedd ysgrifennu, ystafelloedd darllen, a dosbarthiadau meistr, i helpu i ysbrydoli a meithrin talent, datblygiad a gyrfaoedd y garfan. Mae rhaglen Cynrychioli Cymru wedi’i chynllunio ar y cyd â’r awduron, gyda’r sesiynau wedi eu teilwra i gefnogi eu nodau a’u hamcanion cyffredinol.  

 

Effaith Cynrychioli Cymru 

I nifer, mae bod yn rhan o raglen Cynrychioli Cymru wedi bod yn gam ymlaen sylweddol ar eu siwrne fel awdur. Maent wedi datblygu eu gyrfaoedd, cynyddu eu proffil, ac wedi cyhoeddi’n eang.  

  • Mae casgliadau o waith ambell garfan wedi eu cyhoeddi gan Lucent Dreaming, yn cynnwys (un)common: anthology of new Welsh writing yn 2024 a Maps and Rooms yn 2022.  
  • Mae awduron wedi golygu blodeugerdd: Mae Bethany Handley, Megan Angharad Hunter, a Sioned Erin Hughes wedi cyd-olygu Beyond/Tu Hwnt: Blodeugerdd o Ysgrifenwyr Cymraeg Byddar ac Anabl. Anthology of Welsh Deaf and Disabled Writers (Lucent Dreaming, 2025); mae’r gyfrol ar restr fer Gwobr Book of the Year Discover (rhan o The British Book Awards 2026). Mae Nia Morais wedi golygu blodeugerdd O Ffrwyth y Gangen Hon (Barddas, 2025), casgliad o gerddi gan ferched. Mae Durre Shahwar yn gyd-olygydd Gathering, Women of Colour on Nature (404INK, 2023); Mae Hanan Issa wedi cyd-olygu Welsh Plural (Repreater Books, 2022), a hi oedd golygydd blodeugerdd i bobl ifanc And I Hear Dragons (Firefly Press, 2024). Roedd Hanan yn gyd-olygydd y casgliad Chronic Women/ Menywod Cronig gyhoeddwyd yn ddiweddar (Honno, 2026); ac fe olygodd Taylor Edmonds y casgliad The Waters That Raised Us: Personal reflections from Wales (Seren, 2026).  
  • I ddathlu pum mlynedd o raglen Cynrychioli Cymru, bydd Folding Rock yn cyhoeddi rhifyn arbennig o’r cylchgrawn llenyddol fis Tachwedd 2026, yn cynnwys gwaith gan nifer o awduron sydd wedi bod yn gyfranogwyr rhaglen Cynrychioli Cymru.   
  • Mae nifer o awduron hefyd wedi cyhoeddi cyfrolau unigol. Maent yn cynnwys: Enwogion o Fri: Bywyd Penderfynol Betty Campbell gan Nia Morais (Llyfrau Broga, 2023); East of the Sun, West of the Moon gan Taz Rahman (Seren, 2024); Red Sky in the Morning, Poet’s Warning gan Alex Wharton (Firefly Press, 2025); Pamffled barddoniaeth Cling Film gan Bethany Handley (Seren, 2025) ac My Body is a Meadow: Finding Freedom in the Outdoors a gyhoeddir fis Mai 2026 (Headline Press 2026); A Room Above a Shop gan Anthony Shapland (Granta, 2025); Fresh, casgliad barddoniaeth cyntaf Rhiannon Oliver i blant fis Ebrill 2026; Yn y Freuddwyd (Barddas 2026), casgliad barddoniaeth cyntaf Nia Morais yn y Gymraeg; fe gyhoeddwyd nofel gyntaf Jon Doyle Communion fis Ebrill (Atlantic Books, 2026) ac fe’i enwyd yn un o nofelwyr newydd gorau 2026 gan The Observer.  
  • Mae nifer o awduron wedi cyrraedd rhestri hir a rhestri byrion amrywiol wobrau, ac wedi ennill nifer o gystadleuthau yn cynnwys: Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies; gwobr W&A Working Class Writers’ Prize; gwobr Faber FAB Prize; Gwobr Tir na n-Og; Cystadleuaeth Farddoniaeth Wildflowers; gwobr The Laurel Prize and a gwobr Creative Futures Gold Prize.  

Gellir canfod rhagor am brofiadau’r awduron hyn yn eu geiriau nhw eu hun trwy ddarllen ein astudiaethau achos neu ymweld â’r rhestr chwarae ar sianel YouTube Cynrychioli Cymru.  

Bydd ffenestr ymgeisio rhaglen Cynrychioli Cymru 2027-2028 yn agor fis Hydref 2026.  

Caiff rhaglen Cynrychioli Cymru ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru.