Cynrychioli Cymru: 2026-2027 Ffenestr Ymgeisio Rhaglen Datblygu Awduron Ar Agor

Bydd y rhaglen yn cefnogi carfan o 12 o awduron drwy gynnig y canlynol:
- Ysgoloriaeth ariannol o £3,000
- Mentor personol
- Nawdd ariannol ar gyfer teithio a thocynnau
- Rhaglen hyfforddi ddwys ar grefft ac ar ddatblygiad gyrfa proffesiynol sy’n cynnwys awduron byd-enwog fel tiwtoriaid a siaradwyr gwadd gan gynnwys ystafelloedd ysgrifennu ar-lein a dosbarthiadau meistr, gydag un ohonynt yn benwythnos preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
- Cyfleoedd cyson i rannu gwaith creadigol ac adborth ymysg y garfan
- Cyfleoedd rhwydweithio trwy gydol y flwyddyn, ar-lein a wyneb yn wyneb
- Cefnogaeth bwrpasol gan Llenyddiaeth Cymru gan gynnwys cyngor, cyfeirio a nodi cyfleoedd
- Rhaglen ôl-ofal bwrpasol
Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 5.00 pm, Dydd Mawrth 11 Tachwedd 2025
Bydd yr awduron llwyddiannus yn cael eu hasesu a’u dethol gan banel annibynnol o arbenigwyr. Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen ddwyieithog, ac mae Llenyddiaeth Cymru yn croesawu ceisiadau gan awduron sy’n ysgrifennu yn Gymraeg a/neu Saesneg. Darperir sesiynau yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac fe gynigir cyfieithu ar y pryd lle bo angen.
Mae rhaglen 2026-27 yn croesawu’r rhai sy’n ymarfer mewn amrywiaeth o genres creadigol gan gynnwys ffuglen, ffeithiol greadigol, nofelau graffeg, barddoniaeth a pherfformio barddoniaeth.
Ariennir rhaglen Cynrychioli Cymru gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Fe’i datblygwyd i wella cynrychiolaeth o fewn y sector llenyddiaeth yng Nghymru ac i ddatblygu talent a photensial awduron Cymru.
Effaith Cynrychioli Cymru
Mae pob rownd yn adeiladu ar lwyddiannau ac adborth blynyddoedd blaenorol, a gwaith ymgynghori gydag unigolion a sefydliadau yn y sector.
“Roedd Cynrychioli Cymru yn gyfle unigryw i gasglu gleiniau o ddoethineb ac ysbrydoliaeth gan ystod o ‘sgwennwyr talentog a phrofiadol. Fe wnaeth herio fy ffordd o ‘sgwennu a fy ngalluogi i arbrofi gyda genres a ffurfiau newydd. O sesiynau arbennig gyda fy mentor i gasglu cyngor ymarferol o’r diwydiant, ac o sesiynau adborth cefnogol gyda fy nghyd-sgwennwyr oedd yn aml yn agoriad llygad, i gael mewnwelediad ar genres penodol drwy’r dosbarthiadau meistr: mae Cynrychioli Cymru wedi rhoi’r arfau a’r hyder i mi ddatblygu fel ‘sgwennwr. Os wyt ti’n chwilio am arwydd i ymgeisio – dyma fo! Cer amdani!” – Marged Wiliam, cyhoeddir cyfrol o eu barddoniaeth gan Y Stamp yn 2026/27.
Cewch glywed rhagor am brofiadau awduron y llynedd drwy wylio’r fideo isod.
Gallwch ddarganfod rhagor am effaith rhaglen Cynrychioli Cymru drwy fynd i’r adran Cynrychioli Cymru: Gair o Brofiad ar ein gwefan.
Dywedodd Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru:
“Flwyddyn nesaf byddwn yn dathlu 5 mlynedd o Gynrychioli Cymru. Mae’r rhaglen datblygu awduron unigryw hon wedi trawsnewid sector llenyddiaeth yng Nghymru, gyda mwy nag erioed o leisiau newydd yn ymddangos mewn cyhoeddiadau, digwyddiadau llenyddol a gwyliau. Rydym yn eithriadol o falch o’r rhaglen ac yn methu aros i weld pa awduron fydd yn ymuno â ni er mwyn datblygu eu gyrfaoedd yn 2026. “
Cyn gwneud cais, gweler ein Cwestiynau Cyffredin, a ddylai gynnig ateb i bopeth sydd angen i chi ei wybod am y rhaglen.
Ymgeisiwch Nawr
Mae gwahoddiad i unigolion o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol sy’n dymuno datblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol i ymgeisio nawr. Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed ac yn byw yng Nghymru ar adeg ymgeisio a thrwy gydol y rhaglen 12 mis o hyd, heblaw am awduron sydd yn ymgeisio i ddatblygu eu gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’n ddrwg gennym nad yw’r rhaglen yn agored i fyfyrwyr llawn-amser na gweithwyr Llenyddiaeth Cymru a’i arianwyr na’r rhai sydd wedi bod yn rhan o raglen Cynrychioli Cymru o’r blaen.
Fel rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir i awduron gyflwyno sampl o’u gwaith creadigol. Caiff cyflwyniadau fideo o waith creadigol eu derbyn hefyd.
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, gan gynnwys canllawiau, Cwestiynau Cyffredin a sut i wneud cais ewch draw i dudalen brosiect Cynrychioli Cymru, neu cysylltwch â ni: post@llenyddiaethcymru.org
Cefnogaeth i Ymgeiswyr
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y broses ymgeisio yn hygyrch a chroesawgar. Os hoffech chi sgwrsio gydag aelod o staff cyn gwneud cais, anfonwch e-bost at Llenyddiaeth Cymru at post@llenyddiaethcymru.org neu ffoniwch ni am sgwrs anffurfiol ar 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd) neu 029 2047 2266 (Swyddfa Caerdydd). Neu gallwch gysylltu â ni trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Rydym yn hapus i drafod y rhaglen, a’r broses ymgeisio gyda chi, ac i drafod ai Cynrychioli Cymru yw’r rhaglen gywir i chi ar y cam hwn o’ch gyrfa.
Bydd staff Llenyddiaeth Cymru hefyd ar gael i ateb eich cwestiynau yn ystod dwy sesiwn digidol anffurfiol rhwng 6.00 pm – 7.00 pm ar ddydd Iau 16 Hydref a dydd Mercher 5 Tachwedd 2025. Cliciwch ar y dyddiadau a amlygwyd i archebu eich tocyn am ddim drwy’r porth ar-lein, neu gofynnwch am le trwy e-bostio post@llenyddiaethcymru.org, gan ddefnyddio ‘Sesiwn Galw Heibio Cynrychioli Cymru’ fel llinell y testun.