Cynrychioli Cymru: Edrych yn ôl ar flwyddyn o ddatblygu proffesiynol i garfan wych o awduron

Mae 14 o awduron Cymreig eithriadol yn dod at ddiwedd eu taith ddatblygu ddwys blwyddyn o hyd gyda Llenyddiaeth Cymru. Dyma bedwaredd garfan Cynrychioli Cymru ers lansio’r rhaglen flaenllaw yn 2021. Cyhoeddwyd yr awduron ym mis Ebrill 2024 yn dilyn proses ddethol gystadleuol a ddenodd dros 100 o geisiadau.
Yn ogystal ag ysgoloriaeth ariannol a sesiynau mentora, mae’r garfan wedi mwynhau dosbarthiadau meistr, gweithdai a sgyrsiau gan arbenigwyr y diwydiant a rhai o’r awduron a’r tiwtoriaid ysgrifennu creadigol gorau yng Nghymru a thu hwnt. Ymhlith yr enwau mae Rachel Trezise, Rachel Dawson, Jacob Ross, Damian Kerlin, Jasmine Donahaye, Raymond Antrobus, Llio Maddocks, Deanna Rodger, Clare Mackintosh, Luke Wright, Kaite O’Reilly, Clare Shaw a chyhoeddwyr gan gynnwys Calon, Parthian, Seren, Lucent Dreaming, Sebra, Barddas, Y Lolfa, Cyhoeddiadau’r Stamp, Penguin, 404Ink a’r Lolfa.
Gwnaed sawl taith i Dŷ Newydd ar gyfer cyrsiau preswyl, i Ŵyl y Gelli, ac i gwrdd â’u mentoriaid unigol trwy gydol y flwyddyn.
Mae effaith rhaglen eleni eisoes yn dwyn ffrwyth, gyda nifer o’r awduron yn dweud bod pethau cyffrous ar y gweill ganddynt yn eu gwaith sgwennu a’u gyrfaoedd, gan gynnwys cyfarfodydd gydag asiantau, llwyddiant mewn cystadlaethau ysgrifennu, cyhoeddi mewn cylchgronau a blodeugerddi, cyhoeddwyr yn dangos diddordeb mewn llawysgrifau a mwy. Edrychwn ymlaen at rannu rhywfaint o’r newyddion yma’n fuan.
Mae rhaglen Cynrychioli Cymru yn mynd o nerth i nerth, gydag awduron o garfannau blaenorol yn profi llwyddiant yn y diwydiant cyhoeddi gan ddefnyddio eu hyfforddiant a’u mentora, gan gynnwys:
- Cyhoeddwyd blodeugerdd o waith yr ail garfan gan Lucent Dreaming yn 2024 – (un)common: anthology of new Welsh writing.
- Mae Anthony Shapland o’r ail garfan wedi cyhoeddi ei nofel gyntaf A Room Above a Shop gyda Granta y mis hwn (Mawrth 2025), ac adolygiad The Guardian yn ei chanmol fel “un o’r nofelau cyntaf gorau ers blynyddoedd”.
- Mae Bethany Handley, o’r drydedd garfan, hefyd wedi cyhoeddi ei chasgliad barddoniaeth cyntaf eleni, Cling Film (gwasg Seren). Cydweithiodd hefyd â dwy o’i gyd awduron ei charfan Cynrychioli Cymru, Sioned Erin Hughes a Megan Hunter ar antholeg ddwyieithog Beyond / Tu Hwnt – Blodeugerdd o Awduron Byddar ac Anabl Cymreig (Lucent Dreaming, 2025).
- Cyhoeddodd Rhiannon Oliver o’r drydedd garfan y bydd ei chasgliad barddoniaeth cyntaf Fresh yn cael ei gyhoeddi gan Firefly Press yng ngwanwyn 2025.
Mae’r bumed garfan ar fin dechrau eu siwrne hwy ar y rhaglen, a bydd eu henwau’n cael eu cyhoeddi gennym ym mis Ebrill 2025. Ond cyn hynny, mae’n bleser gennym yn Llenyddiaeth Cymru ddathlu ein carfan bresennol wych, a pha ffordd well o wneud hynny na thrwy eu geiriau eu hunain. Cadwch lygad ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol Llenyddiaeth Cymru yn ystod yr wythnos yn dechrau dydd Llun 31 Mawrth ar gyfer ‘take over’ Cynrychioli Cymru.
Caiff rhaglen Cynrychioli Cymru ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Sefydliad Foyle.