Dewislen
English
Cysylltwch

Dathlu Encil Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad

Cyhoeddwyd Llu 20 Ebr 2026 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Dathlu Encil Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad
Dros benwythnos hudolus yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, daeth carfan o awduron Byddar/Anabl a/neu Niwroamrywiol talentog Cymru ynghyd i fwynhau tri diwrnod llawn creadigrwydd, cysylltiad, archwilio, a mynegi eu lleisiau eu hunain. Cafodd yr encil ei arwain gan y dramodydd a’r awdur rhyngwladol arobryn Kaite O’Reilly. 

Wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth â Chelfyddydau Anabledd Cymru, roedd y preswyl yn rhan o raglen Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad Llenyddiaeth Cymru, rhaglen sy’n meithrin 8 awdur Byddar/Anabl a/neu Niwroamrywiol o bob cwr o Gymru. 

Dewiswyd yr awduron yn dilyn galwad agored yn hydref 2025. Nid oedd angen profiad ffurfiol ar ymgeiswyr, dim ond angerdd dros ysgrifennu creadigol ac ymrwymiad i’w crefft. Dysgwch fwy am yr awduron yma. 

Mae rhifyn 2026 o Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad yn adeiladu ar lwyddiant dwy flynedd o gynnal y cwrs ar-lein rhwng 2023 a 2025, ac yn ogystal â chynnig yr encil wyneb yn wyneb yn Nhŷ Newydd, bydd y garfan yn derbyn tiwtorialau un-i-un gan Kaite. 

Dros y penwythnos, archwiliodd y garfan hanes y model cymdeithasol o anabledd ac amrywiaeth o genres gan gynnwys barddoniaeth, monolog, ffuglen a ffeithiol greadigol, dan arweiniad arbenigol Kaite. Roedd arweiniad Kaite yn gynnes, yn hael, ac yn drawsnewidiol, gan roi’r hyder i bob person archwilio, cwestiynu, a chymryd risgiau ar y dudalen. 

Roedd darllenwyr gwadd hefyd yn cynnwys aelodau o garfan y llynedd, Amy Grandvionet a Regina Beach, a rannodd yn hael eu myfyrdodau, eu dysg a rhywfaint o’u hysgrifennu creadigol a ddatblygwyd ers y cwrs.

Cynigiodd y cwrs preswyl hwn ofod lle cafodd y garfan eu cysylltu, eu cefnogi a’u hysbrydoli. Gadawsant nid yn unig fel awduron cryfach, ond fel rhan o rwydwaith cynyddol o bobl sy’n archwilio eu hunaniaeth anabl ac yn mynegi eu profiad bywyd yn eu gwaith creadigol, gan godi eu lleisiau ar draws llenyddiaeth yng Nghymru.  

Ariennir y rhaglen hon gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Celfyddydau Fenton.