Diwrnod Agored Tŷ Newydd – ymunwch â ni!
Cyhoeddwyd Maw 25 Awst 2026

Bydd drysau Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Tŷ Newydd ar agor i’r cyhoedd ar brynhawn Sul 27 Medi rhwng 1.30pm-5.00pm, fel rhan o raglen Drysau Agored CADW.
Bydd y Diwrnod Agored yn rhoi cyfle i ymwelwyr grwydro yr eiddo rhestredig Gradd II* a’i erddi, gan ddysgu am hanes cyfoethog yr adeilad a’i rôl fel canolfan i ysgrifennwyr.
Bydd yr awdur a’r cyflwynydd Anni Llŷn yn cynnal gweithdai ysgrifennu creadigol dwyieithog addas i bob oed,o blant a theuluoedd i awduron fwy profiadol a bydd cyfle i fwynhau cacennau cartref a phaneidiau lu.
Mae mynediad yn rhad ac am ddim, ac mae croeso cynnes i bawb – p’un ai hwn yw eich ymweliad cyntaf chi â’r Ganolfan neu os ydych chi’n ymwelydd cyson!
