Dewislen
English
Cysylltwch

Diwrnod Cyhoeddi Hapus i Menywod Cronig!

Cyhoeddwyd Iau 19 Chw 2026 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Diwrnod Cyhoeddi Hapus i Menywod Cronig!
“Casgliad pwerus a dewr o gerddi yn trafod byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor.”

Heddiw, 19 Chwefror, mae cyfrol arbennig Menywod Cronig wedi’i chyhoeddi gan wasg Honno. Mae’r gyfrol yn ffrwyth prosiect o’r un enw, a ddyfeisiwyd gan Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru, ac a ddatblygwyd rhyngthi hithau a Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru, Gwyneth Lewis.

Mae’r gyfrol yn flodeugerdd ddwyieithog o gerddi gan 14 merch o Gymru sydd wedi’u hysbrydoli gan eu profiad bywyd eu hunain o gyflyrau iechyd cronig ac anabledd. Mae prosiect Menywod Cronig yn mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau mewn gofal iechyd a chanlyniadau menywod, gan ddefnyddio barddoniaeth i godi lleisiau, cynnig man cychwyn i agor sgyrsiau gyda menywod a merched yn ogystal â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ac archwilio’r rôl y gall ysgrifennu creadigol ei chwarae wrth gefnogi iechyd a lles.

Gyda chyfraniadau gan feirdd clodwiw o bob cwr o Gymru, cyflwyniadau gan Hanan, Gwyneth, a Dr Helen Munro, Arweinydd Clinigol Rhwydwaith Iechyd Menywod (Perfformiad a Gwella GIG Cymru), a gyda dyluniadau gan yr artist Elizabeth Akerele, mae’r gyfrol yn un i’w thrysori.

Gellid prynu Menywod Cronig yn uniongyrchol gan wasg Honno, neu ewch draw i’ch siop lyfrau leol.

I ddarllen rhagor am y prosiect, ewch i: Menywod Cronig – Llenyddiaeth Cymru