Dyfarnu Grant Cyfalaf Cyngor Celfyddydau Cymru i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd

Mae’r prif dŷ a’r tiroedd hanesyddol, sydd wedi’u rhestru fel Gradd II*, yn dyddio o’r bymthegfed ganrif, gyda’r gwaith ailfodelu gan Syr Clough Williams-Ellis, pensaer enwog Portmeirion, wedi’i wneud yn y 1940au. Rydym wedi bod yn gweithio gydag arbenigwyr i lunio cynllun rheoli cadwraeth a fydd yn sicrhau cyflwr da Tŷ Newydd tra hefyd yn gwella cynaliadwyedd y ganolfan, a gwella mynediad a phrofiad ein hymwelwyr. Mae’r cyllid hwn yn caniatáu inni ddechrau cyflawni ein cynllun cadwraeth ar unwaith, gan sicrhau bod Tŷ Newydd yn addas ar gyfer y dyfodol trwy wella ffabrig allanol yr adeilad ac ailosod hen osodiadau.
Nod ein rhaglen ddwyieithog flynyddol yw denu ac ymgysylltu ag ystod ehang o awduron ar bob rhan o’u taith lenyddol, ac i wneud hyn roedd angen i ni wella hygyrchedd ein mannau cyhoeddus a’n hystafelloedd gwely. Bydd ein darpariaeth Wi-fi hefyd yn cael ei uwchraddio a byddwn yn gwneud gwaith pellach i archwilio’r opsiwn mwyaf cynaliadwy ar gyfer ailddychmygu ein system wresogi, sydd ar hyn o bryd yn system nwy.
Meddai Claire Furlong, Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru: “Mae Tŷ Newydd yn le gwirioneddol unigryw – yr adeilad ei hun a’r gweithgareddau creadigol sy’n digwydd o fewn ei furiau. Mae’n destun balchder i Llenyddiaeth Cymru fod yn warcheidwaid ar yr adeilad hwn, ond mae hynny’n dod â’r heriau o warchod ei orffennol a sicrhau ei fod yn hygyrch ac yn gynaliadwy er mwyn diogelu ei ddyfodol. Rydym yn ddiolchgar iawn i Cyngor Celfyddydau Cymru am y cyllid hwn a fydd yn ein galluogi i wireddu cam cyntaf ein cynlluniau cadwraeth.”
Bydd y gwaith yn dechrau’n fuan ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn dechrau gwanwyn 2026. Nid yw hyn yn effeithio ar weithgareddau sydd wedi eu rhaglennu eisoes, ond bydd y ganolfan ar gau ar gyfer cyrsiau, encilion a gweithgareddau cyhoeddus eraill am gyfnod byr dros fisoedd y gaeaf. Bydd Tŷ Newydd yn aros ar agor i staff drwy gydol y prosiect.
Mae lleoliad godidog Tŷ Newydd yn denu awduron newydd a phrofiadol fel ei gilydd. Bob blwyddyn, byddwn yn croesawu oddeutu 1,000 o bobl drwy’r drws i fwynhau neu i diwtora cyrsiau. Boed yn blentyn neu’n Brifardd, yn hen law neu’n rhoi cynnig ar sgwennu am y tro cyntaf, mae Tŷ Newydd yn hafan i bawb.
Cymeradwyodd Gwyneth Lewis, Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru, y prosiect, gan ddweud: “Nid oes ysgrifennu heb ddysgu ac mae Tŷ Newydd, ers ei ddechrau, wedi bod yn bwerdy. Mae fel llawr dawns, yn partneru awduron newydd a phrofiadol o Gymru a thu hwnt fel eu bod yn dysgu oddi wrth ei gilydd. Harddwch y cyfnewid hwnnw yw hanfod creadigrwydd.”