Dewislen
English
Cysylltwch

Egni Cymwynas | Cerdd Gomisiwn gan Ifor ap Glyn

Cyhoeddwyd Iau 17 Rhag 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Egni Cymwynas | Cerdd Gomisiwn gan Ifor ap Glyn
Mae cerdd gomisiwn newydd Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn yn dathlu arwyr cyfnod Covid-19, y bobl ledled Cymru sydd wedi bod yn hael a charedig o fewn eu cymunedau er lles eraill. 

Mae’r gerdd yn rhan o oriel ar-lein newydd gan Senedd Cymru, sef portreadau o’r arwyr cymunedol wedi eu henwebu gan Aelodau o’r Senedd. 

Mae’r portreadau yn cael eu cyhoeddi yn ddyddiol ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Ymweld â’r Senedd (Instagram y Senedd, Facebook y Senedd, Twitter y Pierheadym mis Rhagfyr 2020.  

Gwahoddwyd Aelodau o’r Senedd i enwebu hyd at dri hyrwyddwr cymunedol o’u hetholaeth neu rhanbarth i fod yn rhan o’r orielMae’r rhain yn cynnwys unigoliongrwpiaugweithwyr allweddol a busnesausydd wedi gwneud pethau anghyffredin yn ystod y cyfnod Covid-19 i helpu pobl llai breintiedig, ai helpu i gadw cymunedau’n gadarn. 

Comisiynwyd Egni Cymwynas gan Llenyddiaeth Cymru a Chomisiwn y Senedd. 

 

Egni Cymwynas 

(i gydfynd ag Oriel ‘Arwyr Cymunedol mewn cyfnod COVID’  

yn y Senedd, Tachwedd – Rhagfyr 2020) 

 

Mae stadiwm ein gwlad yn dywyll 

ond yn bair o bosibliadau… 

(er nad oes band am chwarae) 

 

Ymhlith y rhesi gwag, mae adlais torf  

yn chwyddo’n gytgan; 

a gwreichion hen haelioni 

yn ffaglu’n fil o fflamau mân. 

 

Peth felly yw egni cymwynas –  

y trydan cudd, ymhob cwr o’n gwlad, 

 

sy’n nôl ffisig,  

neu’n gwneud neges; 

 

sy’n rhannu sgwrs 

fel rhosyn annisgwyl; 

 

sy’n gylch, 

pan freichiwn ein gilydd  

o bell… 

 

Ac wrth i ni anturio  

drwy diroedd newydd ein hen gynefin, 

yr ail-fapio yw ein her; 

 

ond er chwithdod 

cofleidiau rhithiol, 

a diflastod 

pob clo dros dro, 

 

mae gwefr mewn cymwynas o hyd: 

– fel cyffwrdd yr haul â blaen bys! – 

llewyrchwn fel gwlad yn ei sgîl… 

 

Ifor ap Glyn 

Bardd Cenedlaethol Cymru