Encil Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad: Cyfle i Awduron Byddar a/neu Anabl a/neu’n Niwroamrywiol ymuno â chwrs preswyl ysgrifennu creadigol yn Nhŷ Newydd rhwng 27-29 Mawrth 2026

Dyddiad cau i wneud cais: 12.00pm hanner dydd, 3 Rhagfyr 2025
Dyddiadau’r cwrs: Dydd Gwener 27 Mawrth – Dydd Sul 29 Mawrth 2026, gyda sesiynau un-i-un a’r sesiwn olaf yn cael eu cynnal ym Mehefin 2026.
Lleoliad: Caiff y cwrs ei gynnal yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, Gwynedd. Bydd y tiwtorialau a’r sesiwn dathlu yn cael eu cynnal arlein.
Gan adeiladu ar lwyddiant cynnal y cwrs arlein dros y ddwy flynedd diwethaf, bydd rownd 2026 o Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad yn croesawu hyd at wyth awdur Byddar a/neu Anabl a/neu Niwroamrywiol i fynychu encil mewn person ac yna sesiynau un-i-un arlein wedi eu teilwra dan arweiniad y dramodydd a’r awdur o fri rhyngwladol, Kaite O’Reilly.
Meddai Grace O’Brien, awdur fu’n rhan o’r rhaglen y llynedd:
“Roedd ailddyfeisio’r Prif gymeriad yn ddeffroad ac yn gam pwysig yn fy ngyrfa fel awdur. Cyn y cwrs hwn, nid oedd gennyf lawer o brofiad ‘proffesiynol’ o ysgrifennu, ond roedd y syniadau, y sgyrsiau a’r farddoniaeth a gynhyrchwyd yma yn rhan o fy nghais ar gyfer Cynrychioli Cymru.”
Meddai Leigh Manley
“Hwn yw y cwrs, a Kaite yw’r tiwtor, roedd eu hangen arnaf er mwyn i mi deimlo’n hyderus i ddatgan, heb ddal yn ôl, fod pobl yn “anabl”, nid oherwydd eu nam corfforol, ond oherwydd y ffordd y mae cymdeithas yn eu heithrio a’u hymylu’n ddiangen. Mae’n bryd cymryd y naratif yn ôl!”
Meddai Steph Roberts:
“Rhoddodd rhaglen Ailddyfeisio’r Prif gymeriad Llenyddiaeth Cymru x Celfyddydau Anabledd Cymru gyfle hudolus imi gyfleu teimladau personol (ac – yn naturiol – wleidyddol) hynod gymhleth gydag anwyliaid a dieithriaid, trwy naratif ffuglen. Mae’r cwrs yn rhodd. Rhodd yn erbyn dieithrwch a thuag at hunan-ddilysiad ac iachâd; diolch.”
Ar gyfer pwy mae’r cwrs?
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer awduron sydd unai ar gychwyn eu gyrfa sy’n gobeithio datblygu eich sgiliau ysgrifennu, neu’n awdur mwy profiadol sydd â’r bwriad o ailddyfeisio eu prif gymeriadau.
Beth fydd y cwrs yn ei gynnwys?
Gan ddefnyddio enghreifftiau cyffrous o farddoniaeth, ffuglen, a dramâu sydd wedi eu hysgrifennu gan awduron Anabl a Byddar, bydd y gweithdai’n gyfle i herio ystrydebau, ystyried naratif newydd, ac edrych ar ailddyfeisio cymeriadau, ystyried diweddglo annisgwyl, ac adnewyddu’r iaith yn ein gwaith.
Gellir gweld enghraifft fer o’r hyn i’w ddisgwyl ym mhob sesiwn yma: Cynnwys y Cwrs.
“Fe wnes i greu Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad i archwilio, dathlu a hwyluso safbwyntiau ffres gan awduron a oedd wedi’u heithrio neu eu hanwybyddu am lawer rhy hir. Mae’r cwrs yn herio cynrychioliadau gwael a phroblematig o wahaniaeth mewn llenyddiaeth a’r cyfryngau, ac yn arddangos gwaith awduron Anabl, Byddar a niwroamrywiol, gan annog egin awduron i arbrofi a mynegi. Mae cyfranogwyr yn y gorffennol wedi mynd ymlaen i gyhoeddi’n eang, tyfu hyder, gwelededd a chlod proffesiynol. Arlein gynt, mae’r fersiwn newydd hon yn cynnwys preswyliad yn Nhŷ Newydd – gan gynnig cyfle eithriadol ar gyfer archwilio a chysylltu creadigol – adeiladu sgiliau a chymuned. Fedra i ddim aros. “- Kaite O’Reilly, Tiwtor y cwrs
“Rwy’n falch iawn ein bod ni’n gydweithio i gynnal Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad am y trydydd tro! Mae wir yn destun llawenydd. Rwy’n edrych ymlaen at groesawu carfan newydd o artistiaid i’r rhaglen dan arweiniad yr amryddawn, Kaite O’Reilly, unwaith eto.”- Nye Russell-Thompson, Swyddog Datblygu Celfyddydau Perfformio a Llenyddiaeth ar gyfer Celfyddydau Anabledd Cymru
Hygyrchedd
Bydd Llenyddiaeth Cymru yn darparu dogfen hygyrchedd i bob ymgeisydd llwyddiannus, er mwyn holi am unrhyw ofynion mynediad sydd gennych. Byddwn yn cynnig cymorth digonol lle bo angen. Er enghraifft, gallwn drefnu gwasanaeth capsiwn byw neu ddehonglydd BSL i fod yn bresennol yn ystod y sesiynau. Bydd staff Llenyddiaeth Cymru hefyd ar gael i sgwrsio neu ateb gwestiwn cyn y cwrs er mwyn sicrhau bod y cwrs mor hygyrch, cyfforddus a phleserus a phosib i bob unigolyn.
Sut mae gwneud cais am le ar y cwrs?
Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais, a darparu enghraifft byr o’ch gwaith creadigol gwreiddiol (oddeutu 1,000 o eiriau neu hyd at 5 cerdd). Gall y gwaith hwn fod yn farddoniaeth, rhyddiaith, ffeithiol neu’n sgript.
Cewch ragor o wybodaeth ar y dudalen hon: Sut i wneud Cais
Os hoffech chi sgwrsio ag aelod o staff cyn gwneud cais, e-bostiwch Llenyddiaeth Cymru ar post@llenyddiaethcymru.org neu ffoniwch ni am sgwrs: 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd) neu 02920 472266 (Swyddfa Caerdydd). Neu gallwch gysylltu â ni ar gyfryngau cymdeithasol.
Bydd staff Llenyddiaeth Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru hefyd ar gael i ateb eich cwestiynau yn ystod sesiwn ddigidol anffurfiol.
Cofrestrwch ar gyfer y sesiwn drwy glicio ar y dyddiadau isod:
Dydd Mawrth, 4 Tachwedd am 1.00pm-2.00pm
Mae rhagor o wybodaeth am y tiwtor, hygyrchedd, cynnwys y cwrs, Cwestiynau Cyffredin a’r broses ymgeisio i’w gweld ar dudalen prosiect Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad ar wefan Llenyddiaeth Cymru.
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o weithio mewn partneriaeth â Celfyddydau Anabledd Cymru ar y cwrs hwn ac yn ddiolchgar am eu cefnogaeth. Diolchwn hefyd i The Fenton Arts Trust ac i’r Loteri Genedlaethol, trwy law Cyngor Celfyddydau Cymru, am eu cefnogaeth ariannol hael.