Encil Llyfrau Lliwgar 2025

Yn Encil Llyfrau Lliwgar 2025, bydd criw hyfryd o sgwenwyr o wahanol genres a phrofiadau yn dod ynghyd i greu yng nghwmni tri ysgogydd creadigol: y llenor, y golygydd a’r dramodydd, Megan Angharad Hunter, y naturiaethwraig, y bardd a’r llenor, Lowri Hedd Vaughan, a’r llenor, y dramodydd a’r golygydd, Gareth Evans-Jones. Ac yn dilyn yr encil, bydd sesiwn meistr ar-lein gyda’r dramodydd a’r awdur arobryn, Daf James.
Wrth dderbyn lle ar yr encil, dywedodd Megan Lloyd:
“Rwyf mor gyffrous i ymuno ag Encil Llyfrau Lliwgar eleni, encil rwyf wedi eisiau mynychu ers sbel rŵan. Mae cymuned Llyfrau Lliwgar mor hanfodol a chefnogol ac rwy’n edrych ymlaen cael y cyfle i fynychu a chreu mewn gofod saff yn Nhŷ Newydd. Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn cael y cyfle i ddysgu gan y mentoriaid hynod ysbrydoledig, Megan, Lowri, Gareth a Daf. Byddaf yn cymryd y cyfle i greu i mi, ac yn edrych ymlaen rhannu’r profiad arbennig hwn.”
A dywedodd aelod arall o griw gwych 2025, Hafwen Hibbard:
“Dwi wir yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn yr Encil Llyfrau Lliwgar blwyddyn yma. Fydd hi’n gyfle arbennig i mi ddatblygu sgiliau newydd, sgwennu a bod yn greadigol mewn awyrgylch cefnogol a diogel. Dw’n credu bydd hi’n brofiad fydd yn sbarduno fi i sgwennu fwy yn fy mamiaith. Erbyn diwedd y penwythnos dwi’n gobeithio bydd genna i fwy o hyder wrth sgwennu yn Gymraeg a mwy o syniadau am sut i ddatblygu fy ngwaith.”
Bydd yr encil yn digwydd o gyda’r nos Wener, 9fed o Dachwedd, hyd at brynhawn Sul, yr 11eg o Dachwedd 2025. Gallwch ddarllen rhagor am aelodau’r encil yma.