Ffrindiau Bardd Plant Cymru: Mil o blant yn derbyn gweithdai gan awduron ysbrydoledig mewn mis

Mae Bardd Plant Cymru yn rôl genedlaethol sydd â’r nod o ysbrydoli a thanio dychymyg plant ar draws Cymru trwy weithdai a phrosiectau barddoniaeth amrywiol. Dyma’r tro cyntaf ers ei sefydlu yn 2000 i’r Bardd Plant ddod â grŵp o ffrindiau ynghyd i gyrraedd mwy o blant.
Ynghyd â Nia ei hun, ymwelodd Ffrindiau Bardd Plant Cymru, sef Mari Lovgreen, Gwennan Evans, Natalie Jones, Sioned Erin Hughes a Rebecca Wilson â 36 ysgol mewn deg sir yng Nghymru i gynnal gweithdai hwyliog yn chwarae â geiriau, gan hybu sgiliau llythrennedd y plant drwy greadigrwydd.
6 ysgol: (Ysgol Dyffryn Cledlyn, Ysgol Carreg Hirfaen, Ysgol Bro Pedr, Ysgol y Dderi, Ysgol Penygroes, Ysgol Pen y Pîl, Ysgol Nefyn, Ysgol Llanbedrog, Ysgol Pentreuchaf, Ysgol Abererch, Ysgol Llanllyfni, Ysgol Garndolbenmaen, Ysgol Llandygai, Ysgol Rhiwlas, Ysgol Maesincla, Ysol Bro Lleu, Ysgol Llanfairpwllgwyngyll, Ysgol Esceifiog, Ysgol Cwm Banwy, Ysgol Pontrobert, Ysgol Glantwymyn, Ysgol Gynradd Carno, Ysgol Pennant, Ysgol Ffridd y Llyn, Ysgol Santes Tudful, Ysgol Rhyd y Grug, Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf, Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyswen, Ysgol Calon y Cymoedd, Ysgol y Ferch o’r Sgêr, Ysgol Maenclochog, Ysgol Gymunedol Brynconin, Ysgol Griffith Jones, Ysgol Bancyfelin, Ysgol Pontiets ac Ysgol Cefneithin)
10 sir: (Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion, Caerdydd)
Mae straeon cyson wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar ynglŷn â’r argyfwng mewn safonau llythrennedd plant yn dilyn pandemig Covid-19. Mae safonau darllen plant drwy gyfrwng y Gymraeg yn benodol bryderus, a chyswllt amlwg rhwng plant sydd yn derbyn prydau ysgol am ddim a safonau darllen isel, o’i gymharu â’u cyfoedion. Mae Llenyddiaeth Cymru yn ddiolchgar i Grŵp Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru am y nawdd ychwanegol i brosiect Bardd Plant Cymru i gynnal y prosiect pwysig hwn sy’n mynd i’r afael â’r her hon.