Dewislen
English
Cysylltwch

Galwad Agored – Her 24 x 24 Y Stamp a Llenyddiaeth Cymru

Cyhoeddwyd Llu 21 Medi 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Galwad Agored – Her 24 x 24 Y Stamp a Llenyddiaeth Cymru
Mae Y Stamp, mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru, wedi lansio Galwad Agored am unigolion creadigol ar gyfer her gyffrous newydd 24 x 24

Bob blwyddyn ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth mae Llenyddiaeth Cymru wedi herio pedwar bardd i gyfansoddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr. Ers ei sefydlu yn 2012, mae’r Her wedi cynnig cipolwg ar y Gymru sy’n bodoli ar y diwrnod hwnnw – ei gwleidyddiaeth, ei diddordebau, ei newyddion a’i diwylliant. Ymysg y 700 o gerddi a gyhoeddwyd dros y blynyddoedd y mae cerddi serch a cherddi dychan; cerddi i’w canu a cherddi ar y cyd; cerddi am borc peis, babanod newydd a hyd yn oed ffrae epig rhwng John ac Alun a’r Brodyr Gregory. Erbyn hyn mae’r Her wedi sefydlu’i hun fel un o brif ddigwyddiadau llenyddol Cymru, ac yn fodd o ddathlu diwylliant llenyddol unigryw Cymru.

Eleni, pleser fydd cael cydweithio â’r Stamp i gynnal rhywbeth ychydig yn wahanol. Dan arweiniad medrus golygyddion Y Stamp, bydd Her 24 x 24 yn dwyn ynghyd 24 artist am 24 awr. Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, sydd yn cynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol.

Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, ar ddydd Iau 1 Hydref 2020, bydd y 24 artist yn treulio 24 awr i greu 24 darn o waith ar ffurfiau amrywiol. Bydd yr artistiaid yn ffurfio cadwyn greadigol, gan ddechrau am hanner dydd ar 1 Hydref ac yn gorffen am hanner dydd ar yr 2 Hydref. Bydd gan bob artist awr yr un i ymateb i waith yr artist blaenorol mewn unrhyw fodd creadigol, ac yn rhannu’r gwaith gorffenedig ar wefan Y Stamp. Bydd Y Stamp hefyd yn rhoi cip tu ôl i’r llenni i’r broses greu, ac yn rhannu cynnwys ar eu sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Er mwyn gwireddu’r syniad newydd, mae’r Stamp wedi lansio galwad agored sydd yn galw am fwy o artistiaid i ymuno â’r tîm creadigol fydd yn ymgeisio i lenwi diwrnod cyfan â chelf a chreadigrwydd. Nid cerddi’n unig fydd yn cael y sylw – mae’r Stamp yn galw ar awduron, beirdd, artistiaid gweledol, dawnswyr ac unrhyw unigolion creadigol eraill i fynegi diddordeb.

Thema’r Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol eleni yw Gweledigaeth, ac felly bydd elfen o’r thema yma’n rhedeg trwy’r gwaith.

Mae gofyn i unrhyw un sydd â diddordeb bod yn un o’r 24 fydd yn dathlu’r diwrnod trwy gymryd rhan mewn her greadigol i gysylltu i fynegi diddordeb. Am ragor o wybodaeth, ac i fynegi eich diddordeb, cysylltwch â’r Stampgolygyddion.ystamp@gmail.com.

Dyddiad Cau: 25 Medi 2020

Mae’r cyfle hwn yn gyfle gyda thâl, a bydd pob artist yn derbyn ffi.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn hynod falch o gydweithio gyda thîm Y Stamp, ac yn edrych ymlaen at weld yr her yn cael ei ddatblygu a’i chynnal ar ei newydd wedd.