Galwad Agored: Sgwennwyr ifanc i Popeth ar y Ddaear

Galwad Agored am Awduron 18-30 oed
Dyddiad Cau: Wedi bod
- Cyfle i ennill gwobr o £750 yr un i ysgrifennu deunydd
- Derbyn hyfforddiant gan Vanessa Kisuule, ymarferydd perfformio barddoniaeth (spoken word) proffesiynol
- Penwythnos preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd rhwng 18 – 20 Medi eleni
Rydym yn chwilio am awduron sy’n awyddus i ddatblygu dulliau newydd ac arloesol i hoelio sylw cynulleidfa ifanc drwy gyflwyno llenyddiaeth mewn modd gyffrous a chyfoes.
Bydd y gallu i ddatblygu gwaith ysgrifennu creadigol a sgriptio safonol yn bwysig – ond rydym yn bennaf yn edrych am unigolion sydd â diddordeb a hyder mewn creu barddoniaeth ac efallai rap.
Rydym yn benodol yn chwilio am leisiau ffresh, lleisiau sydd ar hyn o bryd yn cael eu tangynrychioli yng Nghymru – boed o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrif ethnig, yn byw ag anableddau neu salwch hir-dymor, neu o gefndir incwm isel. Bydd y prosiect hwn yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg, ond croesawn ddysgwyr a siaradwyr ail-iaith.
Sut i ymgeisio?
Dyddiad cau ymgeisio yw 28 Awst 2020.
I wneud cais, gofynnwn i chi anfon ebost gyda’r manylion yma:
Enw:
Cyfeiriad post:
Dyddiad Geni:
Cyfeiriad ebost:
Rhif ffôn:
1. Oes gennych chi unrhyw brofiad blaenorol o ysgrifennu creadigol / cyhoeddi / perfformio barddoniaeth? (dim mwy na 300 gair)
2. Pam eich bod yn awyddus i ymgeisio am y cyfle hwn? (dim mwy na 300 gair)
3. Sampl o waith ysgrifennu creadigol (heb fod dros 2,000 o eiriau) neu fideo fer ohonoch yn perfformio un o’ch cerddi gwreiddiol at post@franwen.com ar ôl gyrru’r ffurflen gais hon.
Gallwch ddefnyddio gwasanaeth fel WeTransfer i drosglwyddo ffeiliau mawr.
Unrhyw gwestiynau am y cais? Dyma’r canllawiau a manylion pellach.
Unrhyw broblemau cysylltwch â post@franwen.com
Popeth ar y Ddaear
Bydd y cynhyrchiad yn dilyn stori cymuned sydd yn cael ei gorfodi i symud o ganlyniad i ddigwyddiad trychinebus. I ble maen nhw’n mynd? Pwy sydd am fynd? Wrth edrych o gwmpas, nid pawb sydd am oroesi.
Beth fydd y cynnyrch gorffenedig?
- Elfennau o gerddoriaeth boblogaidd dan ofal y cynhyrchydd cerdd Osian Williams gan roi band llawn ar y llwyfan yn ystod perfformiadau
- Tîm o actorion ifainc
- Sgript fydd yn cael ei hadrodd ar ffurf barddoniaeth, rap neu wedi ei ysgrifennu gan y bardd Marged Tudur ynghyd â’r tri awdur dethol newydd spoken word
- Cyfarwyddo gan Nico Dafydd, cyd-gyfarwyddwr y sioe ddigidol 120960 fydd yn dod a’r cyfan at ei gilydd ochr yn ochr â thîm profiadol Frân Wen
- Digwyddiad rhannu gwaith-mewn-datblygiad fel rhan o gynllun Sgratch Frân Wen ym mis Rhagfyr 2020
- Cynhyrchiad fydd yn cael ei deithio o amgylch Cymru – gyda fersiynau ohono’n cael ei berfformio mewn clybiau nos neu lleoliadau cymdeithasol, a’r cynhyrchiad yn ei gyfanrwydd yn cael ei berfformio i gynulleidfa o gannoedd ym Maes B Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2022