Galwad am fynegiad o ddiddordeb: Animeiddiad
Mae technoleg yn rhan annatod o’n bywydau ac yn siapio’r ffordd rydym yn gweld y byd. Mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion, mae Llenyddiaeth Cymru wedi bod yn archwilio’r cwestiwn; Sut y gall technoleg gael effaith gadarnhaol ar les pobl ifanc a pha effeithiau negyddol gall gael ar eu hiechyd meddwl?
Cynhaliwyd cyfres o weithdai barddoniaeth i ddisgyblion Bl. 6 yn archwilio sut mae defnyddio technoleg yn effeithio arnynt yn gadarnhaol ac yn negyddol. Yn dilyn y gweithdai, cynhyrchodd y Children’s Laureate Wales, Connor Allen gerdd a chafodd ei hysbrydoli gan ymatebion y disgyblion.
Rydym yn chwilio am unigolyn neu gwmni i gynhyrchu fideo wedi ei animeiddio o’r gerdd mewn ffordd greadigol, gyfoes a diddorol.
Children’s Laureate Wales
Mae’r Children’s Laureate Wales yn rôl lysgenhadol genedlaethol sydd â’r nod o ymgysylltu â ac ysbrydoli plant Cymru drwy lenyddiaeth. Mae’r Children’s Laureate Wales wedi ymrwymo i:
- Ehangu mynediad plant a phobl ifanc at lenyddiaeth, yn benodol plant a phobl ifanc o gefndiroedd ymylol a chefndiroedd sydd yn cael eu tangynrychioli
- Gwella iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol plant a phobl ifanc drwy lenyddiaeth
- Cynyddu mwynhad plant a phobl ifanc o lenyddiaeth
- Grymuso plant a phobl ifanc drwy greadigrwydd
Y Children’s Laureate Wales presennol yw’r bardd a’r perfformiwr Connor Allen, ac ef yw’r ail awdur i gamu i’r rôl.
Am rhagor o wybodaeth am y prosiect, ewch i dudalen Children’s Laureate Wales yma.
Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol gyda chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth. Ein gweledigaeth yw Cymru sydd yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth.
Am ragor o wybodaeth am Llenyddiaeth Cymru, ewch draw i’n tudalen gwefan yma.
Gofynion
Rydym yn chwilio am unigolyn neu gwmni i gynhyrchu fideo wedi ei animeiddio o un o gerddi Children’s Laureate Wales. Cyfansoddwyd y gerdd yn dilyn cyfres o weithdai a gynnhaliwyd gyda ddisgyblion Bl. 6 mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion ar effeithiau technoleg ar iechyd meddwl pobl ifanc.
Nod y fideo yw tynnu sylw at a chynrychioli’r themâu pwysig sydd i’w gweld yn y gerdd. Rydym yn chwilio am fideo creadigol, cyfoes a diddorol o waith y Children’s Laureate Wales a fydd yn apelio at ddisgyblion CA2 (7-11 oed). Bydd y gerdd yn cael ei rhannu ar wefan Llenyddiaeth Cymru a sianelau digidol y Coleg Brenhinol.
Bydd disgwyl i chi lunio cynnwys, animeiddiad, sain, golygu, graffeg symudol ac isdeitlau (darperir y testun a’r cyfieithiad gan Llenyddiaeth Cymru).
Briff fideo
Hoffem gael un fideo wedi’i animeiddio, heb fod yn hwy na 2 funud ac wedi’i is-deitlo yn Saesneg.
Bydd angen i’r fideo gynnwys sain o gerdd Children’s Laureate Wales yn cael ei hadrodd.
Dylai’r fideo orffen â gwybodaeth am brosiect Children’s Laureate Wales a Logos Llenyddiaeth Cymru a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion.
Amserlen
Dyddiad cau ar gyfer Mynegiadau o ddiddordeb: 5 Awst
Cyfarfod gyda Llenyddiaeth Cymru a’r Coleg Brenhinol i drafod cynnwys: 12 Awst
Golygu a chynhyrchu: 12 Awst – 23 Medi
Cyflwyno drafft 1af: 23 Medi
Llenyddiaeth Cymru a’r Coleg Brenhinol i roi adborth a sylwadau: 30 Medi
Isdeitlo: 30 Medi- 7 Hydref
Cyflwyno’r darnau gorffenedig i Llenyddiaeth Cymru a’r Coleg Brenhinol: 7 Hydref
Ffi
Ar gyfer y gwaith amlinellir yma, rydym yn cynnig ffi o £1,000. Noder os gwelwch yn dda fod TAW yn gynwysedig yn y ffi.
Mynegi Diddordeb
Cysylltwch â post@llenyddiaethcymru.org i fynegi eich diddordeb erbyn dydd Gwener 5 Awst 2022. Os gwelwch yn dda darperwch esiamplau o’ch gwaith yn eich mynegiant.