Dewislen
English
Cysylltwch

Gwobr Tir na n-Og 2021

Cyhoeddwyd Gwe 21 Mai 2021 - Gan Cyngor Llyfrau Cymru
Gwobr Tir na n-Og 2021

The Short Knife gan Elen Caldecott (Andersen Press, 2020) – nofel bwerus a chyffrous i bobl ifanc wedi’i gosod yn yr Oesoedd Canol cynnar – sydd wedi dod i’r brig yng nghategori Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2021 ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc.

Ysgrifennwyd The Short Knife fel rhan o ddoethuriaeth yr awdur mewn Ysgrifennu Creadigol lle bu’n edrych ar y cyfleoedd creadigol y mae ysgrifennu dwyieithog yn eu cynnig. Dyma’r tro cyntaf i Elen ennill Gwobr Tir na n-Og.

Datgelwyd enw’r llyfr buddugol ar raglen y Radio Wales Arts Show nos Wener, 21 Mai, gyda’r awdur yn derbyn gwobr ariannol o £1,000 yn ogystal â cherdd a gomisiynwyd yn arbennig gan Fardd Plant Cymru, Gruffudd Owen.

Mae gwobrau blynyddol Tir na n-Og, sydd wedi’u dyfarnu ers 46 o flynyddoedd bellach, eleni’n dathlu’r llyfrau gorau i blant ac oedolion ifanc yng Nghymru a gyhoeddwyd yn ystod 2020. Fe’u trefnir gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u noddi gan gymdeithas y llyfrgellwyr, CILIP Cymru.

Nofel ar gyfer yr oedran 12+ yw The Short Knife gan Elen Caldecott. Mae’r stori wedi’i gosod ganrifoedd maith yn ôl, yn yr Oesoedd Canol cynnar, yn 454, ar adeg pan oedd hunaniaeth Gymreig newydd yn dod i’r amlwg, pan oedd y Rhufeiniaid wedi gadael, a’r Brythoniaid a’r Sacsoniaid yn brwydro i feddiannu tiriogaethau gwahanol.

Y prif gymeriad, Mai, sy’n adrodd y stori. Mae’n ferch ifanc a hyd yma mae eu tad wedi llwyddo i’w chadw hi a’i chwaer Haf yn ddiogel. Mae’r stori’n dechrau wrth i ymladdwyr Sacsonaidd gyrraedd eu fferm, gan orfodi’r teulu i ffoi i’r bryniau lle mae rhyfelwyr Brythonaidd yn cuddio. Dilynwn ymdrechion Mai i oroesi mewn byd peryglus lle gall siarad ei mamiaith arwain at farwolaeth, a lle mae’n dod i ddrwgdybio hyd yn oed y bobl hynny mae hi’n eu caru fwyaf.

Dywedodd Cadeirydd y panel beirniaid, Jo Bowers:

“Llongyfarchiadau i The Short Knife gan Elen Caldecott, stori ragorol a gwreiddiol ac iddi naratif a llais benywaidd cryf a thro annisgwyl, sy’n gafael o’r cychwyn cyntaf. Dyma nofel sydd wedi’i hysgrifennu’n huawdl gydag iaith delynegol drwyddi draw, wedi’i gosod yn yr Oesoedd Canol cynnar ar adeg bwysig yn hanes Cymru.”

Dywedodd Elen Caldecott:

“Dwi wrth fy modd bod The Short Knife wedi ennill y wobr hon. Pan mae rhywun yn ysgrifennu am ei gartref, mae’r derbyniad mae’r nofel yn ei gael gan bobl sy’n byw yno yn hynod o bwysig. Mae’n meddwl y byd i mi fod y llyfr yn cael ei hyrwyddo a’i gefnogi. Diolch yn fawr i bawb sydd ynghlwm â Gwobrau Tir na n-Og!”

Y ddau lyfr arall ar y rhestr fer Saesneg oedd The Quilt gan Valériane Leblond (Y Lolfa), am deulu yn ymfudo o Gymru i America ar droad yr ugeinfed ganrif, a Where the Wilderness Lives gan Jess Butterworth (Orion), stori gyfoes sydd wedi’i gosod mewn fforest law Geltaidd yng ngogledd Cymru.

Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau:

“Mae’r categori yma yn dathlu ac yn gwobrwyo’r nofel Saesneg orau ac iddi gefndir Cymreig dilys a gyhoeddwyd yn ystod 2020. Mae’n hynod o bwysig i ni yn y Cyngor Llyfrau bod deunydd darllen safonol a chyffrous sy’n adlewyrchu agweddau ar fywyd yng Nghymru ar gael i’n plant a’n pobl ifanc. Llongyfarchiadau gwresog i Elen ac i bawb fu’n rhan o’r gwobrau eleni.”

Dywedodd Amy Staniforth o CILIP Cymru:

“Rydym wrth ein bodd yn noddi gwobrau uchel eu bri Tir na n-Og unwaith eto eleni, gan helpu plant a phobl ifanc i ganfod profiadau darllen newydd sy’n dangos bywyd drwy lens Gymreig. Llongyfarchiadau mawr i’r enillwyr ar eu llwyddiant arbennig ac i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r broses o ddod â’r llyfrau gwych yma i’n silffoedd.”

Dywedodd Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau, Helgard Krause:

“Mae Gwobrau Tir na n-Og wedi bod yn anrhydeddu’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru ers bron i hanner canrif bellach, gan gynnig platfform i ddathlu a hyrwyddo doniau awduron a darlunwyr. Diolch o galon i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gystadleuaeth eleni ac i bawb sy’n creu cynnwys rhagorol i’n hysbrydoli, ein haddysgu a’n swyno ni fel darllenwyr yn ystod blwyddyn hynod heriol.”

Datgelwyd enillwyr y categorïau Cymraeg ar raglen Heno ar S4C nos Iau, 20 Mai. Casia Wiliam oedd yn fuddugol yn y categori cynradd am ei nofel Sw Sara Mai (Y Lolfa), gyda #helynt gan Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch) yn cipio’r brif wobr yn y categori uwchradd. Dyma’r tro cyntaf i’r naill a’r llall ennill Gwobr Tir na n-Og.

Mae holl lyfrau Gwobrau Tir na n-Og ar gael yn eich siop lyfrau neu eich llyfrgell leol. Mae rhagor o fanylion am y gwobrau yma.